Pythefnos Gofal Maeth 2025

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 29 Ebrill 2025
FCF25 Welsh

Ydych chi erioed wedi ystyried maethu i wneud gwahaniaeth mawr ym mywyd plentyn?

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni, a gynhelir rhwng 12 a 25 Mai, bydd Maethu Cymru Torfaen yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau maethu i recriwtio gofalwyr maeth newydd.

Mae'r thema eleni, Pŵer Perthnasoedd’, yn edrych ar y cysylltiadau hanfodol rhwng gofalwyr maeth, plant, gweithwyr cymdeithasol, a'r gymuned, gan ddangos sut mae'r perthnasoedd hyn yn trawsnewid bywydau plant er gwell.

Beth sy’n digwydd?

Ddydd Llun 12 Mai, rhwng 6pm a 7pm, ymunwch â sesiwn wybodaeth ar-lein, lle bydd cynrychiolwyr o dimau Maethu Cymru ledled Gwent yn trafod maethu ac yn ateb eich cwestiynau. Cofrestrwch yma

Dilynir hyn gyda digwyddiad gwybodaeth personol ddydd Mercher 21 Mai, 4pm i 7pm, yng Nghanolfan Addysg Pont-y-pŵl (Y Settlement).

Dewch draw i siarad â gweithwyr cymdeithasol maethu a gofalwyr maeth Torfaen - a fydd yn rhannu sut mae dod yn ofalwyr maeth wedi newid eu bywydau er gwell.

Bydd yr ymgyrch, gan gynnwys sesiynau galw heibio ychwanegol sy'n cael eu cynnal dros y pythefnos, hefyd yn cael ei hamlygu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Torfaen.

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.

Mae'r galw am ofalwyr maeth yn Nhorfaen yn dal i fod yn uchel. Mae maethu trwy’r awdurdod lleol yn cynnwys gwahanol fathau o ofal, megis maethu tymor byr a hirdymor, gofal seibiant, lleoliadau brodyr a chwiorydd, a rhieni a phlentyn.

I gael rhagor o wybodaeth neu i holi, ewch i wefan Maethu Cymru trwy.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:

"Fel awdurdod lleol, rydym yn ymroddedig i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc mewn gofal yn ein cymunedau.

"Drwy faethu gyda ni, fel rhan o Faethu Cymru Torfaen, rydych chi'n sicrhau bod plant yn cadw mewn cysylltiad â'u cymuned, eu teulu a'u ffrindiau, gan eu helpu i ymgartrefu yn eu cartrefi newydd yn haws a chynnal cysylltiadau hanfodol â'u hysgolion a'u cymunedau."

Mae Maethu Cymru Torfaen yn rhan o rwydwaith cenedlaethol Maethu Cymru o 22 awdurdod lleol ac mae'n ymroddedig i annog maethu o fewn yr awdurdod lleol.

Maethu Cymru Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 29/04/2025 Nôl i’r Brig