Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Mai 2024
Mae cymorth digidol rhad ac am ddim ar gael i fusnesau, diolch i fenter ar y cyd rhwng Cyngor Torfaen a chwmni datrysiadau digidol lleol.
Mae’r prosiect yn cynnig y cyfle i 200 o fusnesau i gael gwefan wedi’i theilwra’n arbennig, ynghyd â chymorth digidol am 12 mis, cymorth gyda chyfryngau cymdeithasol a blwyddn o danysgrifiad i ap Uddr, sy’n hyrwyddo busnesau, crefftau a gwasanaethau lleol.
Mae tua 110 o fusnesau eisoes wedi cofrestru ar gyfer y fenter sy’n cael ei harwain gan wasanaethau digidol Uddr.
Yn eu plith mae Daniel Jobbins, perchennog Garej Bancroft ym Mhont-y-pŵl. Meddai Daniel: “Fe ddechreues i yn y garej pan oeddwn i’n 14 oed, fel prentis, a bryd hynny roedd y syniad o gael gwefan ar gyfer busnes fel hwn yn swnio’n wallgof.
"Ond, wedi i mi gymryd perchnogaeth Garej Bancroft eleni, roeddwn i’n teimlo bod rhaid i ni gael gwefan a symud gyda’r oes ac rydw i mor falch i ni wneud hynny.
"Yr wythnos gyntaf i’r wefan fynd yn fyw fe ddechreuon ni gael pobl yn trefnu slot ar-lein ar unwaith – fe wnes i arbed cymaint o amser gan nad oedd yn rhaid i mi gymryd galwadau. Mae mor hawdd diweddaru’r wefan fy hun ac mae hynny’n bwysig iawn."
Meddai David Smith, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Uddr: "Mae pob busnes yn haeddu cael mynediad at wefan, ac mae’n rhywbeth sy’n hanfodol yn yr oes ddigidol sydd ohoni yn 2024.
"Trwy ein mecanwaith cyflawni Uddify, mae busnesau lleol yn gallu ffynnu trwy ddatrysiadau digidol arloesol. Mae’r fenter ar y cyd hon yn dilyn yn ôl troed menter a weithredwyd yn 2022 ac mae’n helpu gyrru newidiadau positif a thwf economaidd, ac rydyn ni wedi darparu dros 300 o becynnau gwefan unigol hyd yn hyn."
Yn ôl y ffigurau, ar gyfartaledd mae busnesau yn gweld cynnydd o 50 y cant yn yr ymgysylltiad ar-lein â chwsmeriaid, diolch i’r pecyn.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda busnes lleol sy’n helpu busnesau lleol eraill i dyfu. Mae cefnogi busnesau a chysylltu pobl yn ddigidol yn rhan o’n Cynllun Sirol.
"Mae’r ffigurau’n siarad drostyn nhw eu hunain a chwmnïau’n gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau gan gwsmeriaid ar unwaith, diolch i’r prosiect hwn."
Gall unrhyw fusnes sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer cymorth digidol rhad ac am ddim fynd i wefan Uddr cyn mis Mawrth 2025.
Am ragor o wybodaeth am Garej Bancroft ewch i’w gwefan.
Ariennir y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae’n dilyn menter debyg rhwng Cyngor Torfaen ac Uddr yn 2022, gyda chyllid gan y Gronfa Adfywio Cymunedol.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu gwerth £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y gronfa yw gwella balchder yn ein bröydd a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau.
(Credyd y llun: David Smith, o Uddr, a Daniel Jobbins)