Dyluniadau newydd ar gyfer yr Hwb Diwylliannol a'r Ardal Gaffi ym Mhont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Mai 2024
Civic Centre car park

Fe fydd diweddariadau i’r cynlluniau’n cael eu cyflwyno yn rhan o’r fenter gwerth £9.3m i greu Hwb Diwylliannol ac Ardal Gaffi ym Mhont-y-pŵl.

Mae’r gwaith paratoi wedi dechrau ar y cynlluniau ar gyfer caffi newydd wrth ymyl y parc ar safle toiledau cyhoeddus Hanbury Road ac ar gyfer Maes Parcio Glantorfaen Road, ond cafwyd newidiadau i’r dyluniadau er mwyn cadw’r costau adeiladu, sy’n codi, i leiafswm.

Fe fydd y dyluniadau newydd yn cael eu cyflwyno er mwyn cael cymeradwyaeth cynllunio’r wythnos hon, ac maen nhw’n golygu cadw mwy o adeilad gwreiddiol y toiledau o’r 1950au. Mae’r cynlluniau ar gyfer tu allan i’r maes parcio hefyd wedi cael eu symleiddio a nifer y mannau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu lleihau o 10 i bedwar.

Fe fydd y cynlluniau newydd yn cynnwys nodweddion allweddol y prosiect o hyd, gan gynnwys caffi a chiosg i ddenu ymwelwyr â Pharc Pont-y-pŵl i mewn i ganol y dref, dau doiled cyhoeddus hygyrch newydd ar Hanbury Road; yn ogystal â lifft newydd ar gyfer y maes parcio, mannau parcio newydd i’r anabl a thoiledau hygyrch yn y maes parcio.

Gall trigolion weld y ceisiadau a chymryd rhan mewn ymgynghoriad statudol ar borth cynllunio'r cyngor.

Mae rhaglen Hwb Diwylliannol ac Ardal Gaffi Pont-y-pŵl hefyd yn cynnwys creu hwb diwylliannol newydd yn Eglwys Sant Iago gerllaw.

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar bob un o’r tri phrosiect ym mis Medi 2024.  

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae costau cynyddol y gwaith adeiladu wedi gwthio cost y dyluniadau gwreiddiol tu hwnt i’r gyllideb. Ond, mae’r dyluniadau newydd yn cadw’r nodweddion a oedd yn y cynigion cyntaf, er enghraifft caffi cyffrous newydd wrth ymyl y parc i ddenu mwy o ymwelwyr i ganol y dref, toiledau hygyrch newydd a chyfleusterau parcio i’r anabl.

"Mae prosiect Hwb Diwylliannol ac Ardal Gaffi Pont-y-pŵl ar y trywydd cywir o hyd i gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025 ac fe fydd yn creu amrywiaeth o swyddi newydd."

Nid oes unrhyw newidiadau i’r cynlluniau i drawsnewid adeilad rhestredig Gradd II Eglwys Sant Iago yn hwb diwylliannol, ac mae’r gwaith ar y gweill yn barod i wella mesurau diogelwch ar safle’r hen eglwys.

Mae Hwb Diwylliannol ac Ardal Gaffi Pont-y-pŵl wedi cael £7.6m gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, sy’n anelu at greu swyddi a thyfi’r economi lleol. 

Rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd gan Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl i’w gynnig.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/05/2024 Nôl i’r Brig