Mae Hybiau Ailgylchu yn newid

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Mai 2024

O ddydd Gwener 24 Mai, bydd y lleoliadau yn Nhorfaen lle gall trigolion gasglu blychau ailgylchu, bagiau a chadis, yn newid.  

Mae angen y newid hwn er mwyn sicrhau y gall trigolion gael cynwysyddion ailgylchu pan fyddant eu hangen, a bydd trefniadau i ddosbarthu i’r rheini sy'n wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag casglu’r cynwysyddion.  

Oherwydd problemau’n gysylltiedig â chyflenwad, a’r nifer fach o bobl sy’n camddefnyddio cynwysyddion, roedd angen adolygu'r ffordd y mae'r cyngor yn darparu cynwysyddion ailgylchu.   

Bydd lefelau stoc yn yr hybiau newydd yn cael eu rheoli gan staff ar y safle, a chyfyngir ar nifer yr eitemau y gall trigolion eu casglu. Gellir casglu dau o bob eitem yn unig yn ystod pob ymweliad.    

Bydd y dull newydd hwn yn gwella niferoedd y cynwysyddion fydd ar gael drwy sicrhau bod gan yr hybiau ddigon o stoc. Mae cyflenwadau wedi eu trefnu ddwywaith yr wythnos.    

Dim ond o'r pedwar hwb canlynol y gellir casglu cynwysyddion ailgylchu o ddydd Gwener 24 Mai: 

  • Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon 
  • Y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl 
  • Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd 
  • Llyfrgell Cwmbrân     

I drigolion sy’n ddeiliaid bathodynnau glas, y rheini sy’n cael cymorth gyda’u casgliadau, neu’r rheini sydd yn methu ag ymweld ag un o’r pedair hwb am resymau meddygol, neu unrhyw reswm arall, gellir dosbarthu’r eitemau ar gais. Gall trigolion ffonio'r ganolfan gyswllt ar 01495 762200 i drefnu bod eitemau yn cael eu dosbarthu iddynt. Bydd ffurflen gais ar-lein yn fyw o ddydd Gwener 24 Mai. 

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, sydd newydd gael ei phenodi’n Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd,: “Rydym yn gwybod pa mor rhwystredig ydyw i drigolion sy’n ymweld â'r canolfannau ailgylchu presennol ac nid oes unrhyw beth mewn stoc.   

Dyna pam y byddwn yn canolbwyntio ar mwy o gyflenwadau mewn llai o hybiau am y tro.  

“Bydd y broses newydd hon yn sicrhau y bydd cyflenwad cyson o gynwysyddion ac  yn caniatáu i ni reoli stoc yn well a chael cyflenwad rheolaidd. Mae hyn yn golygu y dylai fod stoc ar gael bob amser pan fydd trigolion yn ymweld. Bydd hyn yn ein helpu i barhau i Godi'r Gyfradd Ailgylchu yn Nhorfaen.  

“Gall trigolion sy'n ei chael yn anodd galw heibio’r hybiau, fynd ati i lenwi ffurflen ar-lein i wneud cais am drefniadau i ddosbarthu’r eitemau, neu ffonio'r ganolfan gyswllt i drafod.  

“Rydym yn gwerthfawrogi mai dim ond yr eitemau sydd eu hangen arnynt y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd, ond mae'r system bresennol wedi bod yn afreolus ac yn aneffeithlon.   

“Yn anffodus, rydym yn gwybod bod rhai pobl yn defnyddio blychau a bagiau at amrywiaeth o ddibenion eraill ac nid am y rheswm a fwriadwyd.    

“Mae croeso i drigolion roi adborth ynghylch y newid hwn a bydd cynghorwyr a swyddogion yn adolygu llwyddiant y newidiadau hyn wrth symud ymlaen.”  

Dod o hyd i amseroedd agor yr hybiau    

Dysgwch fwy am sut i ailgylchu yn Nhorfaen drwy roi clic ar www.torfaen.gov.uk/recycle 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/05/2024 Nôl i’r Brig