Wedi ei bostio ar Dydd Iau 28 Mawrth 2024
Fe fydd y digwyddiad RHAD AC AM DDIM hwn sy’n para dwy awr ac yn targedu Mentrau Bach a Chanolig ac entrepreneuriaid, yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi am gronfeydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Maen nhw’n werth sawl miliwn o bunnau a gall busnesau geisio amdanynt.
Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024, 07.30 hyd 09.30am
Lleoliad:Gwesty a Sba Parkway, Cwmbrân Dr, Cwmbrân NP44 3UW
Mae’r sesiwn hon yn cynnwys brecwast llawn a digon o gyfleoedd i rwydweithio.
Fe fydd yr asiantau o PwC a CBRE, sy’n rhedeg rhai o’n cronfeydd, yn siarad ar y panel, ac yn rhoi cyngor i chi am feini prawf y cyllid. Bydd gennym arbenigwyr o fusnesau lleol, sydd wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o’r cyllid hwn, yn siarad hefyd.
- Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd - £50m, a reolir gan Reolwyr Cronfeydd Capricorn o Lundain a PwC o Gaerdydd.
- Cronfa Safleoedd Strategol - £50m, a reolir ar ran PRC gan CBRE ac fe fydd un o’u Huwch-gyfarwyddwyr yn siarad yn y digwyddiad.
- Menter Cymoedd y Gogledd - £50m, fe fydd y rhaglen ddiweddaraf hon yn cael ei lansio yn ystod wythnos y digwyddiad.
I ddod i’r digwyddiad, cofrestrwch nawr trwy glicio ar y ddolen isod.
Ysgogi’n Rhanbarthol – Ysgogi 2024