Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Mawrth 2024
Mae dros 80 y cant o ysgolion cynradd Torfaen wedi cymryd rhan mewn arolwg am deithio llesol yn ddiweddar – y nifer uchaf yng Nghymru.
Fe fu cannoedd o ddisgyblion mewn 25 o ysgolion yn cymryd rhan yn arolwg Dwylo i Fyny Teithio i’r Ysgol Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mehefin 2023.
Mae’r arolwg yn hanfodol er mwyn datblygu dealltwriaeth glir o’r gwelliannau y gellir eu gwneud, i annog disgyblion i gerdded a beicio i’r ysgol.
Daw’r newyddion wrth i ysgolion ar draws y Fwrdeistref gymryd rhan yn ymgyrch Wythnos Stroliwch a Roliwch Sustrans, sy’n ceisio annog teithio llesol.
Un o’r rheiny fu’n cymryd rhan oedd Ysgol Gynradd Garnteg.
Meddai Christine Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Garnteg: “Yma yn Ysgol Garnteg rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i annog mwy o ddisgyblion i deithio’n llesol i’r ysgol.
“Roedden ni wrth ein boddau i gyflwyno’n canfyddiadau am deithio llesol gan ein disgyblion, mewn gwasanaeth ysgol gyfan.
“Rydyn ni wedi mwynhau cymryd rhan yn yr arolwg a chadw llygad ar ein cynnydd ar y bwrdd arweinwyr bob dydd.”
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Yn ôl canlyniadau’r arolwg, mae 47% o’r plant yn Nhorfaen yn teithio’n llesol i’r ysgol ac adref o’r ysgol, ac mae hynny’n wych. Ond, buasen ni wrth ein boddau yn gweld mwy o blant yn teithio’n llesol, oherwydd mae’n wych i’r amgylchedd ond mae hefyd yn dda i iechyd a llesiant.
“Mae arolygon fel hyn mor bwysig oherwydd maen nhw’n hanfodol i’n helpu i gynllunio dyfodol llwybrau teithio llesol ger ysgolion.
“Felly, hoffwn ddiolch i ysgolion cynradd am gymryd rhan yn yr arolwg. Mae wir yn gyrhaeddiad gwych!”
Meddai Mark Thomas, Dirprwy Brif Swyddog Priffyrdd a Newid Hinsawdd: “Hoffwn ddiolch i’n tîm Teithio Llesol am weithio’n agos gydag ysgolion cynradd i’w cael nhw i gefnogi’r arolwg. Rwy’n gwybod bod llawer o amser yn cael ei dreulio yn ymgysylltu ag ysgolion cynradd ac mae’n amlwg fod y gwaith yn talu ffordd.”
Meddai Jason O’Brien, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: “Hoffwn ddweud diolch wrth y staff a’r myfyrwyr ymroddgar am gymryd rhan mor frwdfrydig yn yr arolwg teithiol llesol diweddar.
“Mae’n wych clywed bod ein hysgolion yn awyddus i gymryd rhan mewn arolygon pwysig er eu bod yn gwneud cymaint o bethau gwahanol yn barod.”
Mae tîm Teithio Llesol Cyngor Torfaen yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu Cynlluniau Teithio Llesol unigol i Ysgolion.
Mae gan wyth ysgol gynlluniau teithio llesol yn eu lle ac mae wyth arall yn y broses o ddatblygu eu cynlluniau.
Rhagor o wybodaeth am deithio llesol yn Nhorfaen