Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Mawrth 2024
Mae Gwanwyn Glân Torfaen 2024 ar fin dechrau, ddydd Sadwrn 30 Mawrth ym Mharc Pont-y-pŵl am 11am.
Trefnwyd digwyddiadau codi sbwriel mewn deg lleoliad ar draws y fwrdeistref, gan gynnwys Llynnoedd y Garn, Llyn Cychod Cwmbrân a Chanol Tref Pont-y-pŵl.
Mae Fforwm Mynediad Torfaen wedi dewis pum lleoliad codi sbwriel gan fod mannau parcio gerllaw ac arwynebau caled a gwastad*. Dyma’r lleoliadau hynny – Parc Pont-y-pŵl, Llynnoedd Garn, caeau Woodland Road, Northfields a Llyn Cychod Cwmbrân.
Bydd Gwanwyn Glân Torfaen yn dechrau ddydd Sadwrn 30 Mawrth tan ddydd Gwener 5 Ebrill gyda dau ddigwyddiad bob dydd, felly mae digon o amser i gymryd rhan.
Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiad, dewch draw i gofrestru am ddim ar y dydd.
Neu, i drefnu eich digwyddiad casglu sbwriel eich hun, cysylltwch ag oliver.james@torfaen.gov.uk
Manylion y digwyddiadau:
Dyddiad: Dydd Sadwrn 30 Mawrth
Amser: 11am – 1pm
Lleoliad: Parc a Chanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl*
Man cyfarfod: Canolfan Byw Egnïol
Dyddiad: Dydd Llun 01 Ebrill
Amser: 11am – 1pm
Lleoliad: Llynnoedd y Garn*
Man cyfarfod: Maes parcio Garn yr erw
Dyddiad: Dydd Llun 01 Ebrill
Amser: 3pm -5pm
Lleoliad: Canol Tref Blaenafon
Man cyfarfod: Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
Dyddiad: Dydd Mawrth 02 Ebrill
Amser: 11am – 1pm
Lleoliad: Abersychan
Man cyfarfod: Maes Parcio Neuadd y Mileniwm, Garndiffaith
Dyddiad: Dydd Mawrth 02 Ebrill
Amser: 3pm – 5pm
Lleoliad: Canol Tref Pont-y-pŵl
Man Cyfarfod: Marchnad Dan do Pont-y-pŵl. Mynedfa Commercial Street
Dyddiad: Dydd Mercher 03 Ebrill
Amser: 11am – 1pm
Lleoliad: Caeau Woodland Road*
Man cyfarfod: Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road
Dyddiad: Dydd Mercher 03 Ebrill
Amser: 5pm – 7pm
Lleoliad: Coedwig Springvale
Man cyfarfod: Y tu allan i Afon Plumbing and Bathrooms
Dyddiad: Dydd Iau 04 Ebrill
Amser: 11am – 1pm
Lleoliad: Northfields*
Man Cyfarfod: Yr Olive Tree
Dyddiad: Dydd Iau 04 Ebrill
Amser: 5pm-7pm
Lleoliad: Pyllau Llantarnam
Man Cyfarfod: Lake view
Dyddiad: Dydd Gwener 05 Ebrill
Amser: 11am-1pm
Lleoliad: Llyn Cychod Cwmbrân*
Man Cyfarfod: Caffi’r Llyn Cychod
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Hoffem ddiolch i aelodau Fforwm Mynediad Torfaen am eu cymorth eleni.
“Braf oedd cael cyngor am ein lleoliadau codi sbwriel gan grŵp sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch yr ystod eang o heriau y mae pobl sy’n byw ag anabledd neu’n dioddef o gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol hirdymor yn eu hwynebu yn Nhorfaen.
“Drwy wirfoddoli mewn sesiwn codi sbwriel, byddwch nid yn unig yn helpu i dacluso mannau prydferth, ond byddwch hefyd yn cwrdd â phobl o’r un meddylfryd.
“Ni allwn ddiolch digon i’n gwirfoddolwyr am y gwaith y maent yn ei wneud i helpu i gadw’r fwrdeistref yn lân. Rhyngom i gyd rydym am gadw Torfaen yn lân ac yn wyrdd nid yn unig am y tro, ond ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai Amanda Say o Fforwm Mynediad Torfaen: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r Cyngor i ddod o hyd i leoliadau sy’n fwy cynhwysol i bobl anabl, a’r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, gyda mannau parcio gerllaw ac arwynebau caled a gwastad, er mwyn casglu sbwriel a chymryd rhan yn Rhaglen Gwanwyn Glân 2024."
Gofynnwn i wirfoddolwyr wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd, fel menig ac esgidiau cadarn, gwrth-ddŵr, oherwydd gall rhywfaint o dir fod yn anwastad neu'n wlyb. Bydd offer codi sbwriel yn cael ei ddosbarthu ar y diwrnod ochr yn ochr, a cheir sgwrs ar ddiogelwch. Dewch â diod gyda chi os yw'r rhagolygon yn addo tywydd cynnes.
I gael gwybod mwy am gyfleoedd i godi sbwriel, ymunwch â’n tudalen bwrpasol ar Facebook Torfaen Greener Cleaner Volunteers i gymryd rhan.
Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at amcanion llesiant y cyngor i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur drwy weithio tuag at gyflawni'r Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon. Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y cyngor yma.