Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024
Mae prosiect cymunedol newydd sydd am helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn apelio am roddion o ddillad ac esgidiau chwaraeon ail law.
Bwriad yr Ystafell Wisg Gymunedol yw darparu dillad ac esgidiau chwaraeon i blant ac oedolion a fyddai’n cael trafferth eitemau newydd, gan gynnwys crysau ac esgidiau pêl-droed a rygbi a leotardau gymnasteg.
Bydd fenter ar y cyd gan dîm Datblygiad Chwaraeon Cyngor Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon a Chyngor Cymuned Cwmbrân, yn cael ei lansio ar ddiwedd Awst ond mae modd rhoi eitemau o’r wythnos yma ymlaen.
Os oes gyda chi ddillad neu esgidiau chwaraeon o ansawdd da nad oes eu hangen arnoch chi bellach, gallwch eu rhoi nhw i’r Ystafelloedd Gwisg Cymunedol yn:
Cyngor Tref Blaenafon
Cyngor Cymuned Cwmbrân
- Tŷ’r Cyngor, Ventnor Road, Cwmbrân, NP4 3JY
- Oriau: Llun - Iau: 8:30 am–5:00 pm, Gwe: 8:30 am–4:30 pm
- Ffôn: 01633 849070
- E-bost: cwmbrancc@cwmbran.gov.uk
Rhaid i bob eitem fod yn lân, heb ddifrod ac wedi eu clymu’n ddiogel ynghyd.
Mae cynllun ar wahân hefyd yn cael ei ddatblygu gan y Tîm Datblygiad Chwaraeon i ganiatáu i bobl gael benthyg offer chwaraeon am ddim o lyfrgelloedd Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Bydd y llyfrgell newydd yn cynnwys pecynnau chwaraeon ar gyfer Pêl Fasged, Boccia, Criced, Cwrlo, Ffitrwydd, Hanfodion Pêl-droed, Golff. Pêl-rwyd, Pêl Picl, Rownderi, Rygbi, Tenis Bwrdd a Thenis.
Dywedodd y Cyng. Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: “Gadewch i ni ddod at ein gilydd i chwalu rhwystrau a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon.”
"Fel rhan o amcanion ein cynllun sirol, rydym yn ymdrechu i bwysleisio pwysigrwydd lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar draws holl wasanaethau’r cyngor, yn ogystal â gwella iechyd a lles ein trigolion i gyd.”