Caffi Trwsio nawr yn derbyn cerameg

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024
Lynn FB

Erbyn hyn, diolch i wirfoddolwr newydd, gall Caffi Trwsio Torfaen atgyweirio cerameg sydd wedi torri. 

Mae Lynn Heather, 67 oed o Flaenafon, wedi ymuno â’r gwirfoddolwyr yn y caffi i atgyweirio darnau tsieni wedi torri fel addurniadau, jygiau, a phowlenni. 

Meddai Lynn: “Ddeugain mlynedd yn ôl pan oeddwn yn byw yn Llundain, cwrddais â menyw a oedd yn adfer darnau ceramig oedd wedi torri, a hynny’n broffesiynol, ar gyfer amgueddfeydd. Roedd y gwaith yn hynod ddiddorol, a gofynnais iddi a fyddai hi'n fodlon fy nysgu.   

“Rhoddodd hyfforddiant sylfaenol i mi, yn gyfnewid am 100 awr o gymorth. Bûm yn glanhau'r stiwdio a'r offer, gosod eitemau yn barod i'w hatgyweirio a oedd yn aml mewn nifer o ddarnau,  cymysgu glud a sylwedd llenwi, a dysgu sut i gymysgu paent. 

“Rwy'n mwynhau'r broses o roi eitemau yn ôl at ei gilydd oherwydd mae gan bob darn rwy'n ei drwsio werth sentimental i'w berchennog. Rwy’n amyneddgar ac mae gen i lygad da am baru lliwiau, felly pan glywais bod y Caffi Trwsio yn chwilio am wirfoddolwyr, es ati i gynnig help.”  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol, yr Amgylchedd: “Mae’n braf clywed bod y Caffi trwsio yn denu mwy o wirfoddolwyr, yn enwedig rhai sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd i’r rhestr o eitemau y gellir eu trwsio. 

“Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y caffi Trwsio am eu gwaith caled a'u hymroddiad, a hoffwn annog trigolion i ddod yma cyn taflu unrhyw eitemau bach sydd wedi torri. Efallai nad yw’n anodd eu trwsio.”  

Mae’r Caffi Trwsio wedi ei leoli ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl. Mae’n agored ar ddydd Mercher a dydd Iau rhwng 9.30am a 12.30am.   

Gellir mynd ag eitemau bach, fel cerameg, tegellau, peiriant tostio, a sugnwyr llwch bach, i'r siop i gael diagnosis a’u trwsio am ddim, os gellir ei wneud ar y safle.   

Ers agor ym mis Hydref 2022, mae Caffi Trwsio Torfaen wedi trwsio 193 o eitemau trydanol ac atal 32 o eitemau eraill rhag cael eu taflu i ffwrdd, drwy argymell darnau newydd.  

Dysgu mwy am y Caffi Trwsio   

Mae Caffi Trwsio Torfaen yn rhan o rhwydwaith o gaffis trwsio a elwir yn Caffis Trwsio Cymru.   

Gall unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn wirfoddolwr yn y caffi, gysylltu ag Ian Pearce ar IanPearce@wastesavers.co.uk  neu 01633 281287 / 07824991667  

Diwygiwyd Diwethaf: 23/01/2024 Nôl i’r Brig