Y Broses Ymgeisio ar gyfer Ymddiriedolaeth Mic Morris Ar Agor

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Ionawr 2024
Morgan Mates press release

Morgan Mates

Gall athletwyr ifainc sy’n anelu’n uchel geisio am nawdd, i’w helpu i wireddu eu breuddwydion diolch i Ymddiriedolaeth Mic Morris.

Gall pobl ifanc rhwng 11 a 21 oed sy’n perfformio ar lefel elît ymgeisio am grantiau hyd nes 26 Chwefror.

Un o’r rheiny a gefnogwyd gan yr ymddiriedolaeth yw Morgan Mates, o Gwmbrân, sy’n 15 oed ac yn cystadlu yng nghamp Karate Kyokushinkai.

Mae Morgan, sy’n ddisgybl yn ysgol Croesyceiliog, wedi cael dau grant i helpu gyda chostau teithio, llety, gwisgoedd a chyfarpar chwaraeon, ac yn annog athletwyr eraill i ymgeisio i’r gronfa.

Ers iddi gael dyfarniadau gan y gronfa, mae Morgan wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau IFK European Knockdown 2023 yn Yerevan, Armenia.

Meddai Morgan, sy’n hyfforddi yn Kyokushinkai Cwmbrân: “Rwy’n teimlo mor ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Mic Morris am fy nghefnogi i fynd ar drywydd fy mreuddwyd o gynrychioli fy ngwlad mewn cystadlaethau Karate rhyngwladol.”

“Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i’r dojos yr ydw i’n mynd iddynt yn Kyokushinkai Cwmbrân, oherwydd heb eu cefnogaeth nhw ni fuaswn i’n rhan o sgwad Cymru a Phrydain Fawr.”

Ychwanegodd Natalie Richards, Pennaeth Croesyceiliog: “Rydyn ni i gyd mor falch o Morgan. Mae’n seren ym myd athletau ac mae hefyd yn Ddirprwy Brif Swyddog, yn Bennaeth y Weinidogaeth Llesiant, actiodd ran Prince Charming yn ein pantomeim Cinderella ac mae ar Bwyllgor y Prom.”

“Mae Morgan yn cynrychioli ei hun ac Ysgol Croesyceiliog i’r safon uchaf, ac mae’n ymgorffori gwerthoedd ein hysgol, ‘Dysgu, Parch ac Uchelgais’, ym mhob peth a wna.”

Er mwyn i unigolyn ifanc fod yn gymwys i geisio i Ymddiriedolaeth Mic Morris, rhaid bod rhwng 11 a 21 oed ac yn byw yn Nhorfaen.

Mae’r gronfa’n cynnwys amrywiaeth o gampau, ond rhaid bod yr ymgeisydd yn un o’r pedwar categori canlynol:

  1. Perfformiwr ar raddfa’r byd
  2. Elît Cymru
  3. Aelod o sgwad neu dîm cenedlaethol fel y nodwyd trwy’r rhestr a ddarperir gan Chwaraeon Cymru
  4. Yn y rhestr o’r 5 uchaf i Gymru a/neu’r 10 uchaf i Brydain Fawr

Meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth Chwaraeon Mic Morris, Christine Vorres: “Rydyn ni’n deall bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar lawer o deuluoedd, a llawer ohonynt yn defnyddio rhaglenni chwaraeon ac yn talu amdanynt yn y fwrdeistref sirol a thu allan iddi.

"Hoffai’r ymddiriedolwyr sicrhau bod pawb yn gwybod, er bod yr ymgeiswyr yn gorfod cwrdd â meini prawf penodol, fod yr ymddiriedolaeth yn hapus i ariannu eitemau fel ffioedd clybiau, costau teithio, ffioedd hyfforddi, cyfarpar ac unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â’r gamp. Felly peidiwch â bod ofn dod ymlaen i ofyn am gymorth”.

I ymgeisio i Ymddiriedolaeth Mic Morris ewch i wefan Torfaen neu cysylltwch â Christine Philpott ar 01633 628936 neu anfonwch neges e-bost i Christine.philpott@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 19/01/2024 Nôl i’r Brig