Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Ionawr 2024
Mae rhaglen ffitrwydd a lles newydd ac arloesol i ddynion yn unig yn Nhorfaen ar fin cychwyn ym mis Ionawr.
Nod Project X yw darparu profiad ffitrwydd a lles heriol a gwerth chweil i ddynion o bob oed, cefndir a gallu. Bydd y rhaglen yn cyfuno elfennau o CrossFit, hyfforddiant arddull milwrol, sgiliau meithrin tîm a hyfforddiant meddylfryd, i helpu’r rheini sy’n cymryd rhan i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol, eu hyder, a'u gwytnwch.
Mae Prosiect X yn gydweithrediad rhwng Adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Torfaen a champfa Sugar Rogue, cartref CrossFit Cwmbrân, sydd wedi'i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Springvale.
Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim a bydd yn dechrau ar ddydd Mercher 24 Ionawr 2024 am gyfnod o 10 wythnos.
Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn mynychu dwy sesiwn gyda'r nos bob wythnos yn Sugar Rogue, lle byddant yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys a phrofiadol. Bydd y sesiynau'n cael eu teilwra i weddu i anghenion a nodau pawb.
Meddai Ben Jeffries, Swyddog Datblygu Chwaraeon, “Mae llawer o dystiolaeth bod angen mwy o gymorth nag erioed ar les meddyliol a chorfforol dynion. Mae Prosiect X wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i oresgyn heriau personol ac i gyflawni'ch potensial llawn. Deilliodd yr enw ‘Project X’ am ein bod am wneud rhywbeth oedd ychydig yn wahanol a thrawiadol, nad oedd yn rhoi gormod i ffwrdd. Mae'n rhaid i chi ei brofi i'w gredu.”
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau, “Rwy’n falch iawn o weld lansiad Prosiect X, rhaglen unigryw a chyffrous a fydd o fudd i ddynion Torfaen. Mae'r rhaglen hon yn enghraifft wych o sut mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn cydweithio i hybu iechyd a lles yn ein cymunedau.
"Rwy’n annog pob dyn sydd â diddordeb mewn gwella ei ffitrwydd a’i les i gofrestru a bod yn rhan o’r garfan gyntaf erioed i drawsnewid eu bywydau.”
Mae Prosiect X yn gobeithio dilyn yn ôl troed y rhaglen lwyddiannus #oseidiafi i fenywod, a sefydlwyd yn 2017, sydd, erbyn hyn wedi golygu bod 200 o fenywod wedi cael cefnogaeth i feithrin ffordd iach o fyw.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ymuno â Phrosiect X a chychwyn ar eich taith ffitrwydd a lles.
I gael gwybod mwy, neu i gofrestru’ch diddordeb, cysylltwch â Ben Jeffries drwy ffonio 01633 628961 neu anfon e-bost at ben.jeffries@torfaen.gov.uk, neu anfonwch neges uniongyrchol at dudalen Facebook Datblygu Chwaraeon Torfaen.