Erlyniad am absenoldeb parhaus

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024

Mae rhiant wedi cael dirwy am fethu â sicrhau bod eu plant yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd.  

Rhwng Medi 2022 a Gorffennaf 2023, roedd gan un plentyn bresenoldeb o 69 y cant ac roedd gan y llall bresenoldeb o 71 y cant.  Targed y cyngor ar gyfer presenoldeb yw 95 y cant. 

Yr wythnos ddiwethaf, cafwyd y rhiant yn euog o fethu a sicrhau bod eu plant oedran ysgol gynradd yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd trwy broses gyfreithiol y Weithdrefn Un Ynad. 

Mae’r drefn yn caniatáu i un ynad benderfynu achos pan nad yw’r diffynnydd wedi gofyn am brawf mewn llys agored. 

Yn ôl achos yr erlyniad, cynigwyd cymorth i’r rhiant gan yr ysgol a Gwasanaeth Lles Addysg y cyngor i fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus, ond methodd ag ymateb.

Cymerwyd y plant o’r ysgol wedyn i fynd ar wyliau ym Mehefin 2023, gyda’r ddau blentyn yn colli naw diwrnod o’r ysgol.  

Rhoddwyd dau Hysbysiad o Gosb Benodol i’r rhiant, ond ni dalwyd y rhain er gwaethaf estyniad mewn amser.

 

Mae’r rhiant wedi cael eu gorchymyn i dalu dirwy o £440, costau’r erlyniad o £120 a gordal dioddefwyr o £176.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg, a cham olaf yw erlyn bob tro. Byddwn bob amser yn ceisio gweithio gyda theuluoedd i roi cefnogaeth benodol i sicrhau bod eu plant yn gallu mynd i’r ysgol. Mae ein hysgolion yn cynnig addysg gyfoethog ac amrywiol ac mae plant yn colli hyn trwy beidio â dod yn rheolaidd.” 

Cyflwynodd y cyngor bolisi presenoldeb newydd ym Mawrth 2023, a oedd yn cymeradwyo’r defnydd o Hysbysiadau o Gosb Benodol gan ysgolion ar gyfer absenoldebau heb eu hawdurdodi. 

Ers hynny, mae, 96 Hysbysiad wedi eu rhoi yn Nhorfaen. 

Gall hysbysiad gael ei roi pan fod o leiaf 10 sesiwn, neu bum diwrnod ysgol wedi eu colli heb awdurdod, pan fo plentyn yn hwyr yn gyson (ar ôl cau’r gofrestr), a phan fo rhieni’n gwrthod ymgysylltu â’r ysgol i wella lefelau presenoldeb eu plentyn. 

Mewn achosion mwy difrifol, gellir penderfynu erlyn yn hytrach na rhoi Hysbysiad. Gall methu â thalu cosb hefyd arwain at achos llys. 

Ewch at ein gwefan am fwy o wybodaeth am bresenoldeb ysgol yn Nhorfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 29/02/2024 Nôl i’r Brig