Casgliadau gwastraff gardd yn ailddechrau cyn hir

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
Garden Waste cym

Bydd casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos yn Nhorfaen yn ailddechrau’r wythnos yn dechrau ddydd Llun 4 Mawrth.

Cynghorir trigolion i roi eu biniau gwyrdd allan i'w casglu yn ôl y manylion ar eu calendrau casglu.

Gallwch fynd ati i weld Dyddiadau’r casgliadau a’r calendrau ailgylchu yma ar lein. 

Gwastraff o’r ardd yn unig fel porfa, dail, dail a brigau o berthi, brigau bach, planhigion a blodau wedi gwywo y dylid eu rhoi yn y bin gwyrdd. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i gael gwared ar wellt ac ati o welyau anifeiliaid anwes fel bochdewion a moch cwta.

Rhaid gwaredu ar faw cŵn a chathod yn y bin olwynion â chlawr porffor.

Ni ddylid gwaredu ar wastraff bwyd yn y bin gwyrdd ond yn hytrach ei roi yn y cadi bwyd brown i'w ailgylchu.

Atgoffir trigolion hefyd i beidio â defnyddio bagiau plastig i storio eu gwastraff o’r ardd.

I gael gwybodaeth am wastraff o’r ardd neu gompostio gartref, ewch i http://www.torfaen.gov.uk/ailgylchu

 

Diwygiwyd Diwethaf: 21/02/2024 Nôl i’r Brig