Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Chwefror 2024
Mae dros 700 o blant wedi cymryd rhan mewn wythnos llawn hwyl o chwarae dros hanner tymor, diolch i Wasanaeth Chwarae Torfaen.
Cynhaliodd y gwasanaeth wyth o Wersylloedd Chwarae a Lles mewn ysgolion lleol ac yn Stadiwm Cwmbrân, ble mwynhaodd y plant gelf a chrefft, gemau, chwaraeon a sioe dalent gyda thema Sant Ffolant.
Cynigiwyd chwe sesiwn Chwarae a Seibiant hefyd i blant a phobl ifanc sydd ag angen am gymorth ychwanegol, gan sicrhau eu bod nhw’n cael yr un cyfleoedd â phlant eraill.
Dywedodd Corey Parry, tad Reuben, 6 oed, a aeth i un o’r sesiynau Chwarae a Seibiant:
“Mae’r gwasanaeth yn wych. Mae e wedi rhoi cyfle i fy mab gwrdd â ffrindiau, ymdopi â phryder o gylch lleoedd a dysgu trefn reolaidd, rhywbeth y mae’n cael trafferth gyda hi’n ddyddiol.
“Rydym mor hapus gyda’r gwasanaeth a’r gefnogaeth maen nhw’n rhoi i’n plentyn. Mae’n anhygoel!”
Dywedodd Bethan Robins, mam Kian a Scarlet, a ddaeth i sesiynau’r wythnos hefyd:
“Fel mam sengl i ddau o blant, un ag anghenion ychwanegol - rwy’n ddiolchgar iawn bod yna rhywbeth fel Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn ein hardal ni.
“Rwy’n gwybod bod fy mhlant yn ddiogel a’u bod yn cael perthynas anhygoel gyda phobl gweithiwr a’r gweithwyr un wrth un, a bod eu hanghenion i gyd yn cael eu diwallu.”
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:
“Ni fyddai’r cyfleoedd yma’n bosibl heb ymroddiad y gwirfoddolwyr a’r gweithwyr chwarae i gyd sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae. Maen nhw’n ased gwirioneddol i Dorfaen a hoffwn ddiolch iddyn nhw am bob dim y maen nhw’n gwneud.”
Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen: “Mae hi wedi bod yn wythnos wych arall o chwarae ac rydym yn cael ei synnu bob tro gyda chyfraniad ein gwirfoddolwyr ifanc. Rydym yn cael trafferth cadw i fyny gyda’r galw a nifer y plant sy’n dod.”
Mae ein gwasanaeth nawr yn chwilio am unigolion sydd am wirfoddoli yng ngwersylloedd yn haf eleni a’r cynlluniau chwarae mynediad agored. Mae Chwarae Torfaen hefyd yn recriwtio gweithwyr chwarae, gweithwyr cymorth chwarae a goruchwylwyr safleoedd.
Rhaid i wirfoddolwyr fod yn 16 oed a throsodd, a’r dyddiad cau i wneud cais yw dydd Gwener 28ain Mawrth.
Bydd wythnos lawn o hyfforddiant o ddydd Llun 22 Gorffennaf, gyda chlybiau’n digwydd o ddydd Llun, 29 Gorffennaf hyd ddydd Iau 22 Awst.
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein yma neu e-bostiwch torfaenplay@torfaen.gov.uk