Trigolion yn ymuno yn nigwyddiad newydd Panel y Bobl

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 1 Chwefror 2024
People's Panel crop

Daeth wyth ar hugain o drigolion i’n digwyddiad Panel y Bobl yr wythnos hon – digwyddiad sydd wedi cael gweddnewidiad.  

Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Siambr yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl nos Fawrth ac roedd yn cynnwys gwybodaeth am newidiadau i bleidleisio seneddol, ffordd newydd o weithio gyda chymunedau a’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd. 

Fe fu trigolion hefyd yn holi cwestiynau am gynlluniau’r Cyngor ar gyfer Hwb Diwylliannol ac Ardal Gaffi Pont-y-pŵl, buddsoddiad yng nghanol tref Pont-y-pŵl a’r Fwrdeistref yn gyffredinol, a thai fforddiadwy. 

Awgrymwyd sefydlu gweithgor i edrych ar faterion sy’n benodol i ganol tref Pont-y-pŵl, gan gynnwys parcio a phroblemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yr oedd y bobl sy’n byw yn St James' Field, gyferbyn â datblygiad ardal gaffi arfaethedig y Cyngor, yn eu hwynebu. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, ei fod yn gobeithio y byddai digwyddiadau Panel y Bobl yn rhan o sgwrs barhaus gyda thrigolion. 

Meddai: "Mae cynghorau ymhob man eisiau ymgysylltu â thrigolion ond dydyn nhw ddim yn siŵr sut mai gwneud hynny. Weithiau mae ymgynghoriadau yn gallu bod yn sych, heb fawr o ymateb, ac weithiau maen nhw’n gallu creu llawer o ymateb ond mae’r bobl yn teimlo bod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn barod.

"Rydyn ni’n ceisio newid pethau a chael sgwrs fwy ymgynghorol gyda thrigolion, er mwyn i chi holi cwestiynau a rhoi eich barn am bethau.

"Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod cyfnodau anodd, fel yr ydyn ni i gyd yn eu hwynebu nawr ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, gyda chynnydd aruthrol yn y galw a diffyg adnoddau i’w rhannu. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithio i ddylunio atebion."

Debbie Powell oedd un o’r rhai a oedd yn bresennol. Meddai: "Mae’r cysyniad yn un da ac roedd yn hyfryd clywed angerdd pobl dros Bont-y-pŵl. Roedd yn braf gweld cymaint o bobl wedi ymdrechu i fod yno."

Nod y digwyddiadau Panel y Bobl, sydd wedi cael gweddnewidiad, yw goleuo trigolion ynghylch cynigion ac ymgynghoriadau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol, a chodi’r materion yr hoffent eu trafod.  

Gofynnwyd i’r rheiny a ddaeth am eu hadborth am y digwyddiad a bydd yr adborth hwn yn cael ei ddefnyddio i wella cyfarfodydd yn y dyfodol. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys hyrwyddo’r digwyddiad yn well, defnyddio llai o iaith dechnegol mewn cyflwyniadau ac opsiwn i bobl ymuno ar-lein.

Cewch ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac ymgynghoriadau Panel y Bobl yn y dyfodol trwy gofrestru ar ein gwefan Dweud Eich Dweud Torfaen

Rhagor o wybodaeth am baneli dinasyddion eraill yn Nhorfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2024 Nôl i’r Brig