Wedi ei bostio ar Dydd Iau 1 Chwefror 2024
Heddiw, agorwyd canolfan gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhont-y-pŵl yn swyddogol, gan Arweinydd Cyngor Torfaen y Cynghorydd Anthony Hunt.
Mae Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw, sydd ger safle ysgol gynradd Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhrefddyn, yn cynnig lleoedd llawn-amser a rhan-amser yn ogystal â gofal cofleidiol i blant rhwng 0 a 5 oed.
Mae’r ddarpariaeth gofal plant wedi creu 40 o leoedd cofrestredig ac mae’n cynnig lleoedd wedi eu hariannu Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant.
Yn gynharach heddiw, cyfarfu’r Cynghorydd Hunt â rhai o blant y ganolfan a’u rhieni, a chawsant daith o amgylch yr adeilad a’r cyfleusterau.
Mae Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ledled Cymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Dyma’r ddarpariaeth gofal plant integredig gyntaf yn Nhorfaen sydd wedi cael ei hadeiladu ochr yn ochr ag ysgol gynradd newydd.
Mae safle Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn darparu Addysg Cyfrwng Cymraeg o dair oed i 18 oed.
Meddai Emma Edwards, rheolwr Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw: “Rydyn ni wrth ein boddau i groesawu Arweinydd Cyngor Torfaen, Y Cynghorydd Anthony Hunt, i lansio’n canolfan Gofal Plant newydd yn swyddogol heddiw.
"Rydyn ni’n falch o gynnig amgylchedd cyfrwng Cymraeg i feithrin ein plant i ddysgu, chwarae a thyfu. Mae gennym dîm ymroddgar a chymwys o staff sy’n angerddol ynghylch cefnogi datblygiad plant a’u llesiant. Edrychwn ymlaen at weithio gyda rhieni a gofalwyr i ddarparu’r gwasanaeth gofal plant gorau ar gyfer eu plant.”
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Dyma enghraifft wych o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn narpariaeth y blynyddoedd cynnar, er budd plant a theuluoedd ledled Cymru. Mae Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw yn cynnig gofal plant cynhwysol, o ansawdd uchel, sy’n cefnogi addysg a datblygiad plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn gymorth i gynyddu niferoedd y siaradwyr a’r dysgwyr Cymraeg yn yr ardal, ac i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.”
Yn ogystal â gofal plant, mae’r ganolfan hefyd yn rhoi mynediad i wasanaeth uwch yr ymwelydd iechyd, cymorth i rieni a dewis o wasanaethau Dechrau’n Deg.
Am ragor o wybodaeth am Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw, ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.