Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024
Mae yna gais i ddisgyblion ysgolion cynradd i helpu yn y frwydr yn erbyn sbwriel a thipio anghyfreithlon, drwy ddylunio poster.
Mae clirio sbwriel sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon yn costio dros £1 miliwn y flwyddyn i’r Cyngor, a gallai’r arian hwn fod yn cael ei wario ar wasanaethau hanfodol eraill.
Cynlluniwyd y gystadleuaeth sydd wedi ei hanelu at ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 i danio brwdfrydedd a diddordeb ynghylch taclo problemau amgylcheddol lleol.
Anogir disgyblion i greu posteri sy’n adlewyrchu eu dealltwriaeth o gostau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sbwriel a thipio anghyfreithlon yn yr ardal.
Bydd y tri sy’n dod i’r brig yn ennill taleb llyfrau gwerth £30, tystysgrif a nwyddau gan Eco-Sgolion Cymru. Bydd y rheiny sy’n dod yn ail ac yn drydydd hefyd yn cael tystysgrifau.
Bydd y dyluniad buddugol yn cael ei drawsnewid yn arwydd y bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn ei ddefnyddio ar draws Torfaen.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol sydd hefyd yn cael effaith ar gymunedau lleol ble mae ein plant yn byw.
“Gobeithiwn y bydd y gystadleuaeth hon yn annog pobl i feddwl ddwywaith am ollwng sbwriel neu ddefnyddio masnachwyr didrwydded sydd efallai ddim yn cael gwared ar sbwriel yn y ffordd gywir.”
“Edrychaf ymlaen at weld ffrwyth gwaith y plant.”
Meddai Neil Harison, Arweinydd Tîm, Taclo Tipio Cymru: “Rydyn ni’n gyffrous iawn i fod ynghlwm â’r gystadleuaeth hon a fydd yn addysgu pobl ifancach am dipio anghyfreithlon ac yn eu hannog i feddwl am y ffordd y mae’n effeithio ar eu cymuned leol.
“Allwn ni ddim aros i droi’r dyluniad buddugol yn arwydd a fydd yn atgoffa pob un sy’n ei weld i feddwl yn gyfrifol am y ffordd y maen nhw’n cael gwared ar eitemau diangen a gwastraff y cartref.
“Mae angen i bob un ohonom gydweithio i gadw’n hamgylcheddau lleol yn lân ac yn hardd!”
Meddai Kylie Hughes, Swyddog Addysg Eco-Sgolion Cadwch Gymru’n Daclus: “Dyma gyfle cyffrous i ysgolion cynradd ar draws Torfaen i arddangos eu gwybodaeth amgylcheddol ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.
“Pan fydda i’n ymweld ag ysgolion yn Nhorfaen, mae angerdd a chreadigrwydd y disgyblion yn creu argraff arna’ i bob tro – alla i ddim aros i weld beth fyddan nhw’n ei greu ar gyfer y gystadleuaeth hon.”
Cynrychiolwyr y Cyngor, Taclo Tipio Cymru ac Eso-Sgolion Cymru fydd yn beirniadu’r gwaith.
Y dyddiadau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 05 Mehefin.
I gofrestru’ch diddordeb, anfonwch neges e-bost i oliver.james@torfaen.gov.uk
Rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth