Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Ebrill 2024
Oeddech chi’n gwybod y bydd babi yn cynhyrchu tua 78 o fagiau bin yn llawn cewynnau yn ystod blwyddyn gyntaf ei fywyd?
Mae cewynnau tafladwy a gesglir yn Nhorfaen yn cael eu hanfon i'w llosgi. Yn ei dro, maent yn cael eu troi'n ynni i bweru cymunedau lleol.
Mae cewynnau golchadwy yn cael llai o effaith o lawer ar yr amgylchedd na chewynnau tafladwy ac maent yn opsiwn rhatach i rieni yn y tymor hir.
Mae rhieni a gofalwyr sy'n ystyried defnyddio cewynnau golchadwy nawr yn cael cyfle i roi cynnig arnynt am ffi fach cyn ymrwymo i brynu.
Gellir treialu cewynnau brethyn am fis am ffi fach o £10 ynghyd â blaendal o £25 sy’n ad-daladwy, a hynny gan y Llyfrgell Cewynnau gan Wastesavers sy’n bartner i ni. Mae'r pecynnau yn cynnwys 25 o gewynnau brethyn, bagiau gwlyb a leinwyr yn ogystal â chyngor arbenigol. Mae cewynnau ar gael i ar gyfer babanod sy’n pwyso rhwng 2.5kg / 5lbs a 15kg/36lbs.
Os yw arian yn broblem, mae bwndeli o gewynnau brethyn am ddim ar gael i’w llogi yn y tymor hir a gall teuluoedd fanteisio ar hyn i arbed arian a helpu’r amgylchedd.
Dywedodd Laura Steggles, Cydlynydd Prosiect Llyfrgell Cewynnau: “Gall un babi ddefnyddio rhwng 5,000 a 6,000 o gewynnau tafladwy erbyn eu bod yn cael eu dysgu i ddefnyddio’r tŷ bach, felly mae hwn yn swm enfawr.
“O gymharu, tua 20 i 25 yn unig fyddai angen ar rieni neu ofalwyr sy’n defnyddio cewynnau golchadwy.
“Mae cewynnau golchadwy yn costio ychydig bunnoedd yr un i'w prynu i ddechrau ac mae angen eu golchi, ond gallant arbed tua £200 i £500 i rieni dros ddwy flynedd a hanner ar gyfer eu babi cyntaf a hyd yn oed mwy os ydynt yn eu hailddefnyddio ar gyfer ail blentyn ac ati.
“Rwyf yma i gynnal sesiynau galw heibio misol, ond gallwch gysylltu â mi bob amser trwy fy nhudalen Facebook os oes gan unrhyw un unrhyw gwestiynau am gewynnau golchadwy.
“Rwyf hefyd yn ceisio ymweld â chynifer o grwpiau plant â phosibl i roi sgyrsiau, felly os oes unrhyw un yn gwybod am grŵp a fyddai â diddordeb, cysylltwch â mi.”
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Gall defnyddio cewynnau golchadwy fod yn llethol os ydych chi'n rhiant newydd neu os oes gennych nifer o blant, ond erbyn hyn, mae cewynnau golchadwy yn llawer haws i'w defnyddio ac yn fwy cyfleus.
“Mae'r cyngor wedi rhoi taleb o £30 i rieni newydd i brynu cewynnau golchadwy dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n wych bod gennym Laura i gynnig help a chyngor i rieni.”
Mae sesiwn galw heibio nesaf Laura yn cyd-fynd ag Wythnos Cewynnau Golchadwy eleni a gynhelir rhwng dydd Llun 22 Ebrill a dydd Sul 28 Ebrill.
Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth am fanteision cewynnau golchadwy, ac mae'n cynnwys digwyddiadau, cynigion arbennig a gweithgareddau addysgol difyr ar hyd a lled y DU ac ar-lein.
Bydd yr wythnos sy’n llawn gweithgareddau yn hyrwyddo effaith gadarnhaol cewynnau golchadwy, nid yn unig ar yr amgylchedd ond hefyd ar gyllidebau cartrefi.
I gael gwybod mwy a sut i gymryd rhan, ewch i wefan Wythnos cewynnau Golchadwy a Llyfrgell Cewynnau Casnewydd gan Wastesavers ar Facebook, a dilyn #ReusableNappyWeek ar Facebook, Instagram, Twitter a TikTok.