Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Ebrill 2024
Yn ystod 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddyraniad o £20 miliwn i Ganol Tref Cwmbrân yn rhan o’i Chynlluniau Hirdymor ar gyfer canol trefi.
Y cam diweddaraf yn y broses o ddatblygu’r cynllun hwnnw yw sefydlu Bwrdd Buddsoddi Tref Cwmbrân a bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal fis Mai.
Mae cyfran fwyaf y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr busnesau a chymunedau lleol a chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus gan gynnwys gwleidyddion lleol. Prif amcan y Bwrdd fydd datblygu’r cynllun hirdymor a gweithio’n agos gyda phobl leol.
Louise Jones-Williams yw Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Llantarnam Grange ac mae wedi derbyn y rôl fel Cadeirydd cyntaf y Bwrdd. Mae Louise wedi gweithio ym maes y Celfyddydau yn Ne-ddwyrain Cymru ers dros 25 mlynedd ac mae’n arwain ar fusnes strategol a chyfeiriad creadigol y sefydliad, gan godi arian a dod i gyswllt â phartneriaid a rhwydweithiau er mwyn datblygu cydberthnasau a phrosiectau.
Y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, fydd cynrychiolydd cyntaf y Cyngor i eistedd ar y Bwrdd.
Fe fydd y cynllun hirdymor gwerth £20 miliwn yn sicrhau buddsoddiad dros gyfnod o 10-mlynedd i yrru gwelliannau yng nghanol y dref ac i chwalu’r rhwystrau sy’n atal adfywiad. Mae’r ffin buddsoddi yn cynnwys Canol Tref Cwmbrân a chymdogaethau cyfagos.
Bydd y weledigaeth 10-mlynedd yn adnabod y blaenoriaethau mwy hirdymor ar gyfer y dref ac yn datblygu cynllun buddsoddi 3-blynedd a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU cyn mis Awst 2024. Bydd cyfuniad o gyllid cyfalaf a refeniw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sydd â ffocws ar 3 thema allweddol ar gyfer buddsoddi:
- Diogelwch
- Y Stryd Fawr, Treftadaeth ac Adfywio
- Trafnidiaeth a Chysylltedd.
Aelodau o Fwrdd Buddsoddi Tref Cwmbrân
- Louise Jones-Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Llantarnam Grange
- Nick Thomas Symonds, AS
- Tegan Davies, Aelod o’r Senedd Ieuenctid
- Adam Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Siopa Cwmbrân
- Richard Selby, Cadeirydd, Fforwm Economaidd Torfaen
- Gareth Waters, Llais Busnes Torfaen
- Mark Poulton, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Cwmbrân
- Lauren Morse, perchennog busnes, Zero Waste Torfaen
- Y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, Cyngor Torfaen
- Paul Biggs, Prif Arolygydd Cymdogaethau a Phartneriaethau, Heddlu Gwent
- Aimi Morris, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen
- Lloyd Hambridge, Isadran Gofal Sylfaenol a Chymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Dan Coles, Dirprwy Bennaeth, Coleg Gwent
- Alan Brunt, Fforwm Tai Strategol Torfaen
Cynrychiolwyr eraill o gynghorau cymuned a’r sector chwaraeon cymunedol i’w cadarnhau.