Talu'r pris am werthu nwyddau ffug

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 27 Medi 2023

Mae menyw o Bont-y-pŵl wedi cael ei herlyn gan Gyngor Torfaen wedi iddi gael ei dal yn gwerthu nwyddau ffug gan ddefnyddio rhaglenni Facebook Messenger a WhatsApp.

Plediodd Lisa Jane Bedding, 62, o Gwmavon Road, Pont-y-pŵl yn euog i’r cyhuddiad o hysbysebu a gwerthu nwyddau ffug a oedd yn cynnwys bagiau llaw, esgidiau, watsys a cholur ffug ag arnynt enwau dylunwyr enwog fel Prada, Mulberry, Ted Baker ac Ugg.

Gweithredodd swyddogion o Dîm Safonau Masnach y Cyngor warantau yng nghartref a man gwaith Ms. Bedding wedi i aelod o’r cyhoedd eu rhybuddio.  Daethant o hyd i nifer o nwyddau ffug ar y safleoedd hyn, yn ogystal â rhestrau prisiau ac archebion mewn llawysgrifen.

Defnyddiodd Ms. Bedding lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu cynnyrch a werthwyd am brisiau sylweddol is na’r fersiynau go iawn. Trefnodd ddigwyddiadau gwerthu hefyd yn ei chartref a’i gweithle.

Cyfaddefodd Ms. Bedding i 12 cyhuddiad, a oedd yn cynnwys un-ar-ddeg o gyhuddiadau yn ymwneud â gwerthu nwyddau ffug a chael nwyddau o’r fath yn ei meddiant, ac un cyhuddiad o Dwyll, yn Llys Ynadon Cwmbrân ddydd Gwener 23 Mehefin 2023.

Ddydd Gwener 22 Medi 2023, ymddangosodd Ms. Bedding gerbron Llys y Goron Caerdydd i gael ei dedfrydu, a chafodd ddedfryd o garchar am 10 mis, wedi’i gohirio am ddwy flynedd. Cyflwynodd y Llys Orchymyn Atafaelu o £75,000 hefyd o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 am y swm y tybiwyd iddi fod wedi ei ennill o’i gweithgareddau troseddol, a chafodd orchymyn i dalu costau’r Cyngor, sef  £12,000. Mae’n ofynnol iddi dalu’r Gorchymyn Atafaelu o fewn tri mis. Os na fydd y taliad yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn gallai Ms. Bedding wynebu naw mis yn  y carchar.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Dylai hyn fod yn rhybudd i unrhyw unigolion sy’n credu eu bod yn gallu elwa ar werthu nwyddau ffug. 

“Mae Tîm Safonau Masnach Torfaen yn gweithio’n ddiwyd i atal pobl rhag gwerthu nwyddau ffug a’u dosbarthu. 

“Mae’r rheiny sy’n cael eu dal yn gwerthu cynnyrch o’r fath yn wynebu dirwy, ond gallent hefyd fod yn destun ymchwiliadau o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 ac mae yna bosibilrwydd y gallent gael dedfryd o garchar, fel y gwelwyd yn yr achos hwn. 

“Mae gan lysoedd yr awdurdod i atafaelu arian ac asedau er mwyn adennill enillion troseddau pan na fydd troseddwyr yn gallu profi eu bod wedi eu cael mewn ffordd gyfreithlon.

“Fel arfer, mae ansawdd nwyddau ffug yn is na’r cynnyrch go iawn ac maent yn gallu bod yn risg i ddiogelwch. Mae prynu eitemau o’r fath yn cefnogi masnachwyr anghyfreithlon, ac yn tanseilio busnesau cyfreithlon. Anogir trigolion i brynu cynnyrch gan werthwyr parchus a chyfrifol yn unig.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am nwyddau ffug gysylltu â Thîm Safonau Masnach Torfaen ar 01633 647623 neu anfon neges e-bost i trading.standards@torfaen.gov.uk 

Cewch ragor o wybodaeth ar www.torfaen.gov.uk/tradingstandards 

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/09/2023 Nôl i’r Brig