Enwebu podlediad ysgol am wobr

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Medi 2023
Croesycast podcast award

Mae podlediad ysgol sy’n cynnwys sêr o Gymru wedi cael ei enwebu am wobr.

Lansiwyd CroesyCast gan grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd Croesyceiliog y llynedd. Ers hynny, maen nhw wedi cyfweld â Charlotte Church, y gantores opera Katherine Jenkins, yr actor mewn ffilmiau Hollywood, Luke Evans, Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ynghyd â staff a disgyblion.

Mae CroesyCast hefyd wedi cefnogi ymgyrch #DdimMewnColliAllan Cyngor Torfaen, sydd wedi mynd ati i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol yn rheolaidd.  Mae CroesyCast nawr wedi cael ei enwebu am Wobr Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, oherwydd yr hyn y maen nhw wedi’i gyflawni yn y diwydiant cyfryngau.

Meddai’r athro Will Boardman, sy’n helpu gyda’r gwaith o gynhyrchu CroesyCast, “Rwy’n teimlo’n hynod o falch o dîm CroesyCast. Maen nhw i gyd yn bobl ifanc anhygoel ac yn fodelau rôl rhagorol i weddill yr ysgol. Maen nhw wedi gwneud cynnydd aruthrol mewn un flwyddyn ac wedi datblygu’n rhagorol. Mae pob un ohonyn nhw’n llwyr haeddiannol o’r enwebiad hwn”.

Meddai Hannah, aelod o dîm CroesyCast sy’n ddisgybl yn yr ysgol: “Pan glywais i fod CroesyCast wedi cael ei enwebu, roeddwn i’n llawn syndod ac yn teimlo’n freintiedig. Doeddwn i wir ddim yn ei ddisgwyl. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y profiad o fynd i’r seremoni wobrwyo”.

Ychwanegodd Natalie Richards, Pennaeth Ysgol Croesyceiliog: “Drwy’r llynedd dyma oedd fy uchafbwynt wrth yrru i’r ysgol. Rydw i’n hynod o falch o waith caled ein myfyrwyr, eu talent a’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni. I fi maen nhw eisoes yn enillwyr”.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae’n wych gweld myfyrwyr yn arallgyfeirio o’u cwricwlwm er mwyn archwilio a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Fe fyddan nhw wedi dysgu llawer o’r broses yn ogystal â chael y cyfle i siarad â phobl mor llwyddiannus sy’n llawn ysbrydoliaeth."

Dim ond un o’r gweithgareddau allgyrsiol yn Ysgol Uwchradd Croesyceiliog yw CroesyCast ac mae’n anelu at annog disgyblion i fynychu’r ysgol yn rheolaidd a chael y mwyaf o’u haddysg. Cewch ragor o wybodaeth trwy ddilyn @CroesyCast ar Twitter a thrwy chwilio am #DdimMewnColliAllan.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/09/2023 Nôl i’r Brig