Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 13 Medi 2023
Yr wythnos nesaf, fe fydd cynghorwyr Torfaen yn ystyried yr adroddiad diweddaraf am ail-agoriad arfaethedig Fferm Gymunedol Greenmeadow.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r 2 opsiwn dichonol i gynghorwyr – naill ai buddsoddi’n ychwanegol neu gau’r safle 120-erw.
Nod y cynigion i fuddsoddi’n ychwanegol fydd troi Fferm Gymunedol Greenmeadow yn atyniad rhanbarthol poblogaidd i ymwelwyr, gan ddenu digon o ymwelwyr sy’n talu i gynhyrchu elw cyson a diweddu’r angen i’r cyngor roi cymhorthdal blynyddol i’r fferm.
Coley Hill Consultants (CHC) sy’n arwain y prosiect ar ran y cyngor, ac mae’n gweithio gyda Gaunt Francis Architects a thîm o beirianyddion a syrfewyr. Mae gan CHC gymwysterau proffesiynol a phrofiad ym maes twristiaeth a lletygarwch ac mae wedi gweithio ar atyniadau mawr i dwristiaid fel Eden Project, Kew Gardens a The Wave ym Mryste.
Mae’r gost ddiwygiedig ar gyfer ailagor y fferm wedi codi i £3,738,900 a nawr rhagamcannir y bydd y fferm yn cynhyrchu elw o 2029/30. Bryd hynny amcangyfrifir y bydd niferoedd ymwelwyr yn cyrraedd dros gan mil o bobl.
Byddai’r cais am nawdd ychwanegol o £1,641,400 yn dod o raglen gyfalaf y cyngor. Bydd y buddsoddiad yn sicrhau atyniad cyffrous i ymwelwyr sy’n cynnwys caffis newydd ac estynedig â chwarae meddal, cyfleusterau chwarae caled dan do ar gyfer pob tywydd a chyfleoedd gwell ar gyfer manwerthu. Byddai ardaloedd y caffis a’r mannau manwerthu yn defnyddio cynnyrch a chyflenwyr lleol yn rhan o’r arlwy ac yn eu hyrwyddo. Byddai gan y fferm ardal ddigwyddiadau newydd hefyd yn y Sgubor Wair er mwyn annog cwsmeriaid newydd ar gyfer gweithgareddau cymunedol ac i’w hurio’n breifat.
Bydd ardal addysg a llaethdy ar eu newydd wedd yn ymestyn dros 2 lawr, gan gynnig gweithgareddau i ysgolion, colegau, grwpiau cymunedol a phob ymwelydd arall. Bydd y lle hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mwytho anifeiliaid, digwyddiadau ac arddangosiadau.
Bydd gwaith tirlunio sylweddol yn gwella’r amgylchedd naturiol ac yn cynnig lleoedd i gynnal amrywiaeth o brofiadau awyr agored, gan gynnwys llwybrau coetir, llwybr peillio, a llwybrau synhwyraidd. Bydd y ddarpariaeth chwarae awyr agored hefyd yn cael ei huwchraddio yn rhan o’r cynnig.
Cynigir y bydd y pris mynediad cyffredinol yn £8.50, gydag aelodaeth leol ar gael am £24 ac ymweliadau i ysgolion yn £5 y disgybl. Aeth CHC ati i feincnodi prisiau mynediad yn erbyn 14 atyniad tebyg ledled De Cymru a De Lloegr.
Meddai aelod gweithredol Cyngor Torfaen dros gymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: ‘Rydw i’n sylweddoli nad penderfyniad hawdd mohono i aelodau, o ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Ond, mae’r rhain yn gynigion cyffrous iawn sy’n cefnogi ein Cynllun Sirol i sicrhau bod Torfaen yn lle ffyniannus i fyw ac i ymweld ag ef, a byddent hefyd yn gymorth i warchod ein treftadaeth wledig a’n mannau agored.
‘Bydd y buddsoddiad arfaethedig yn sicrhau bod y fferm yn atyniad o’r radd flaenaf i ymwelwyr yn y rhanbarth, ac yn rhan o’n harlwy Cyrchfan Torfaen. Bydd yn ad-dalu’r buddsoddiad cyfalaf ac yn creu gwarged i’w buddsoddi yn y cyfleusterau yn y dyfodol, gan gadw’r arlwy i ymwelwyr yn ffres.
‘Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn denu ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn a bydd mwy o ffocws ar y profiad awyr agored i ymwelwyr, gan ymateb i’r galw gan ymwelwyr am fwy o weithgareddau sy’n addas i bob tywydd, profiadau dilys gydag anifeiliaid, a chyfleoedd i dreulio amser yn yr awyr agored ym myd natur a defnyddio defnyddiau naturiol a’r dirwedd er mwyn chwarae yn yr awyr agored.
‘Bydd y gofod sgubor newydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cynnal priodasau, partïon, gweithgareddau cymunedol a rhaglen o ddigwyddiadau, gan sicrhau bod y fferm yn hwb pwysig yn y gymuned ehangach.
‘Er mwyn i’r fferm ail-agor mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod y sgubor anifeiliaid a’r safle ehangach yn ddiogel a bod siwrneiau o amgylch y fferm yn hygyrch i bob ymwelydd.’
Os bydd cynghorwyr yn cymeradwyo’r cynigion, bydd y fferm yn aros ar gau tra bod y gwaith ar y gweill, ac yn ailagor heb fod yn hwyrach na mis Ebrill 2025.
I ddarllen yr adroddiad llawn ewch i Agenda ar gyfer Cyfarfod y Cyngor ddydd Mawrth, 19 Medi, 2023