Gwaith paratoi ar gyfer cyfyngiad cyflymder 20mya newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Medi 2023

Mae gwaith wedi dechrau i dynnu arwyddion ffyrdd yn Nhorfaen cyn cyflwyno terfyn cyflymder newydd o 20mya.  

O 17 Medi, 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn mewn mannau adeiledig yng Nghymru’n gostwng o 30mya i 20mya.  Mae hyn yn cynnwys heolydd ble mae goleuadau stryd wedi eu gosod nid yn fwy na 200 llath o’i gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth i wneud ffyrdd yn fwy diogel, lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, annog mwy o bobl i gerdded a seiclo a diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

O’r wythnos hon ymlaen, bydd arwyddion terfyn cyflymder yn cael eu tynnu.  Mae hyn yn cynnwys arwyddion parthau 20mya y tu allan i ysgolion oherwydd bydd yr heolydd yma’n destun y terfyn diofyn o 20mya o 17 Medi ymlaen.

Mae arwyddion i atgoffa am 20mya a’r rheiny sy’n dangos dechrau heolydd 30mya wedi cael eu gosod a byddan nhw’n cael eu dadorchuddio yn y cyfnod yn arwain at fod y terfyn o 20mya yn dod i rym. 

Gofynnir i yrwyr barhau i yrru’n gyfrifol gyda’r terfynau cyflymder presennol hyd nes i’r terfyn newydd ddod i rym.  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Fel cyngor, rydym yn gwneud pob dim i sicrhau fod gyrwyr yn ymwybodol o’r terfyn cyflymder newydd a bod y seilwaith ffyrdd newydd yn adlewyrchu’r terfyn cyflymder newydd cyn gynted ag y bydd yn dod i rym. 

"Tra bydd hyn yn newid sylweddol i yrwyr, mae’n bwysig cofio y bydd y terfyn cyflymder is newydd yn gwneud ffyrdd yn fwy diogel i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd fel seiclwyr a cherddwyr, gan gynnwys plant, pobl ag anableddau, pobl hŷn a rhieni gyda phramiau neu gadeiriau gwthio."

Tra bydd y rhan fwyaf o heolydd 30mya yn gostwng yn awtomatig i 20mya, mae’r cyngor wedi nodi 37 o ffyrdd a fydd yn aros yn 30mya am 18 mis tra bod adolygiad yn cael ei gynnal. Gallwch weld y rhestr o eithriadau 30mya ar ein gwefan.

Amcangyfrifir y bydd teithio 20mya yn ychwanegu dim ond un funud i bob milltir o daith car.  Am fwy o wybodaeth am y terfyn cyflymder newydd, ewch at y wybodaeth 20mya ar ein gwefan neu wefan Llywodraeth Cymru Terfynau Cyflymder 20mya LlC

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â newid o deithiau byr mewn car i gerdded neu seiclo, ewch at y wybodaeth ar deithio llesol ar ein gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2023 Nôl i’r Brig