Eithriadau 30mya

20mph Speed Limits

O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder cyffredinol mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn gostwng o 30mya i 20mya.

Mae'r cyngor wedi gwneud cais am nifer o eithriadau lle bydd y terfyn cyflymder yn parhau i fod yn 30mya.

Bydd gorchmynion traffig dros dro, a elwir yn Orchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol, yn cael eu gweithredu ar hyd y rhain o fewn wythnos o gael eu hysbysebu a bydd arwyddion 30mya ar waith.

Gall y gorchmynion fod ar waith am 18 mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y Cyngor yn asesu a yw’r penderfyniad i gadw’r terfyn cyflymder yn 30mya, yn gweithio.

Ers hynny mae aelodau'r cabinet wedi argymell bod rhifau 34 a 35 yn cael eu hadolygu mewn ymgynghoriad ag aelodau lleol.

Dyma’r eithriadau:

  1. Newport Road (o gylchfan Rougemont i gylchfan Parkway Llantarnam)
  2. Park Way Llantarnam (o Newport Road i Cwmbran Drive)
  3. Newport Road (o Llantarnam Road i gylchfan y Crown)
  4. Llantarnam Road (o Court Road i Llanfrechfa Way)
  5. Llanfrechfa Way (o Llantarnam Road i fynedfa parc sglefrio Northfields)
  6. B4236 Caerleon Road (o gylchfan Turnpike i Twmbarlwm View, yn cynnwys cylchfan Y Faenor)
  7. Henllys Way (o Llantarnam Road i A4051 gylchfan Cwmbran Drive)
  8. Henllys Way (o gylchfan A4051 Cwmbran Drive i Cocker Avenue)
  9. Tŷ Coch Way (ei hyd)
  10. Hollybush Way (o gylchfan Two Locks Road i tua 100m i’r de ddwyrain o gyffordd y Fynwent)
  11. Hollybush Way (o gylchfan Two Locks Road i gylchfan Henllys Way)
  12. Henllys Way (o gylchfan Hollybush Way i Stevelee)
  13. Henllys Way (o gylchfan Hollybush Way i gylchfan Tŷ Gwyn Way)
  14. Penylan Way (ei hyd)
  15. Tŷ Gwyn Way (o gylchfan Henllys Way am tua 486m i gyfeiriad y gogledd orllewin)
  16. Tŷ Gwyn Way (o Marlborough Road i gylchfan Greenmeadow Way)
  17. Thornhill Road (o Tŷ Gwyn Way i Aran Court)
  18. Greenforge Way (o gylchfan Greenmeadow Way i gylchfan Springvale)
  19. Greenforge Way (o gylchfan Springvale i’r A4051 Cwmbran Drive, yn cynnwys cylchfan Springvale)
  20. Springvale Way (o gylchfan Greenforge Way i gylchfan Maendy Way)
  21. Maendy Way (o Bryn Celyn Road, yn cynnwys cylchfan Springvale Way a chylchfan Chapel Road, i Caradoc Road)
  22. A4051 ffordd gyswllt Cwmbran Drive (o Chapel Street i Woodside Road)
  23. Caradoc Road (o’i groesffordd â Maendy Way i gylchfan Morrisons)
  24. Llywelyn Road (o Maendy Way i gylchfan Tudor Road) Llantarnam a Phontnewydd
  25. Tudor Road (o gylchfan St David’s Road i A4051 Cwmbran Drive, yn cynnwys cylchfan Llywelyn Road)
  26. Edlogan Way (o gylchfan Morrisons i gylchfan Woodland Road)
  27. St Davids Road (o gylchfan Llanfrechfa Way i Station Road, yn cynnwys cylchfan Tudor Road a chylchfan Morrisons)
  28. Avondale Road (o Station Road i Pontrhydyrun Road)
  29. A4051 Cwmbran Drive (o tua 100m i’r de orllewin o gylchfan Bevans Lane am tua 629m i gyfeiriad y de)
  30. Newport Road (o gylchfan Rechem am tua 486m i gyfeiriad y dwyrain) Panteg a’r Dafarn Newydd
  31. Newport Road (o Newport Road am bellter o tua 650m i gyfeiriad y de, heibio Pimlico, Pont-y-pŵl
  32. Pontyfelin Road (ei hyd) Panteg
  33. Old Crumlin Road (o Twmpath Road i Parkes Lane) Pont-y-pŵl
  34. B4246 (o Gladstone Terrace i Kears Row) Abersychan
  35. A4043 Cwmavon Road (o Ffrwd Road am tua 1393m i gyfeiriad y gogledd) Abersychan
  36. B4246 Abergavenny Road (o Rifle Street i King Street) Blaenafon
Diwygiwyd Diwethaf: 27/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Ebost: highways.transportation@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig