Cwestiynau Cyffredin

20mph Speed Limits

Mae Llywodraeth Cymru yn ateb eich cwestiynau

Pam fod terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei gyflwyno?

Credwn y byddai cyflwyno 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr yn:

  • lleihau'r risg a difrifoldeb anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau rhwng cerbydau a phobl fregus sy’n defnyddio’r ffyrdd
  • annog mwy o bobl i seiclo a cherdded
  • eu gwneud yn fwy deniadol i’n cymunedau

A fydd hyn yn effeithio ar yr holl ffyrdd sy'n 30mya ar hyn o bryd?

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn creu terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya. Bydd hyn yn gadael awdurdodau lleol a'r 2 o Asiantaethau Cefnffyrdd sydd yn y sefyllfa orau, i ymgysylltu â’r gymuned leol i benderfynu pa ffyrdd y dylid eu cadw’n 30mya.

A fydd yr heddlu'n gorfodi'r terfyn cyflymder 20mya a fwriedir?

Bydd yr heddlu'n parhau i orfodi ar bob ffordd. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r heddlu i ddatblygu strategaeth orfodi sydd, yn ein barn ni, yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i'r holl ddefnyddwyr. Ar hyn o bryd rydym yn treialu’r camau gorfodi mewn ardaloedd arbrofol, cyn i’r 20mya gael ei weithredu’n genedlaethol ym mis Medi 2023.

Pa effaith fydd gan y terfyn cyflymder ar amseroedd teithio?

Cyffyrdd a signalau sy’n dueddol o bennu amseroedd teithio ar y ffyrdd mewn ardaloedd trefol, yn hytrach na’r terfyn cyflymder.

Mewn llawer o achosion ni fydd gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cael fawr o effaith ar amseroedd teithio, ac o bosib, ddim effaith o gwbl. Lle mae’n creu effaith, mae ein dadansoddiad yn dangos mai tua funud yn hirach y byddai’r mwyafrif o siwrneiau, ond byddai hyn yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr a seiclwyr.

Pam nad oes modd sefydlu’r terfyn 20mya fel terfynau amser yn ystod oriau ysgol yn unig?

Ni fydd hyn yn annog plant i gerdded neu seiclo o’u cartrefi, am mai diogelu plant ger yr ysgol yn unig y byddai hynny’n gwneud, lle mae ganddyn nhw ddigon o niferoedd eisoes i deimlo’n ddiogel.

Mae 80% o’r anafiadau i blant yn digwydd ar deithiau nad ydynt yn gysylltiedig â’r ysgol. Bydd cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya yn cadw plant yn fwy diogel o’r funud y maen nhw’n gadael eu cartrefi - y bwriad yw sicrhau bod y strydoedd yn fwy diogel i bawb.

A fydd y gwaith hwn yn cynnwys gwario arian ar fesurau arafu traffig?

Nid yw’n fwriad i gynnwys mesurau tawelu traffig (gan gynnwys bympiau cyflymder) yn rhan o'r camau i newid terfynau cyflymder. Gellir cyflwyno mesurau eraill, mwy ‘meddal’, fel terfynau cyflymder ‘clustogi’, cael gwared ar y llinell ganol, culhau’r ffordd gerbydau’n weledol, trwy ddefnyddio planhigion ac ati.

A fydd lleihau cyflymder i 20mya yn gwneud niwed i flwch gêr fy nghar?

Gall ceir modern yrru ar gyflymder o 20mya heb niweidio'r injan neu'r cydrannau. Mae cyfyngiadau 20mya wedi cael eu defnyddio ers dechrau'r 1990au ac ni adroddwyd unrhyw broblemau o ran blychau gêr. Gall defnyddio gêr rhy isel ar unrhyw gyflymder gynyddu’r traul ar flychau gêr.

Bydd defnyddio'r gêr cywir a gyrru ar gyflymder cyson yn helpu i ymestyn bywyd yr injan a’r blwch gêr.

A fydd gyrru ar 20mya yn golygu fy mod yn defnyddio mwy o danwydd?

Na. Mae’r ffordd yr ydym yn gyrru yn dylanwadu’n bennaf ar y tanwydd yr ydym yn ei ddefnyddio – mae gyrru ar gyflymder cyson yn well na stopio a dechrau. Gall cyflymu i 30mya ddefnyddio ddwywaith cymaint o ynni â chyflymu i 20mya.

Pam fod beiciau’n cael goddiweddyd pan 'dw i’n gyrru ar 20mya?

Mae’n anghyffredin iawn i seiclwr yrru heibio modurwr ar 20mya.

Mae cyfyngiadau cyflymder yn y Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau. Fodd bynnag, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn dweud y dylai beicwyr fod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Ble arall cyflwynwyd terfynau cyflymder o 20mya yn y DU?

Mae cyfyngiadau cyflymder 20mya mewn grym yn llawer o'r dinasoedd canolig a mwy yn Lloegr a'r Alban ac mae mwy o awdurdodau gwledig yn cyflwyno rhaglenni 20mya estynedig ar raddfa fwy.

Os bydd yr Alban hefyd yn gosod terfynau cyflymder cyffredinol o 20mya, bydd hyd at 28 miliwn o bobl yn y DU yn byw mewn awdurdodau lleol lle mae 20mya yn arferol.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Ebost: highways.transportation@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig