Wedi ei bostio ar Dydd Llun 30 Hydref 2023
Bob pum mlynedd, rhaid i awdurdodau lleol adolygu eu gorsafoedd pleidleisio i sicrhau eu bod yn gyfleus ac yn hygyrch i bleidleiswyr.
Mae Cyngor Torfaen wedi dechrau'r broses o asesu ardaloedd a gorsafoedd pleidleisio yn y fwrdeistref a mae sawl argymhelliad wedi’u gwneud.
Gofynnir i drigolion nawr am eu barn ar eu gorsaf bleidleisio leol a'r cynigion.
Dysgwch am yr argymhellion a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Dywedodd Caroline Genever-Jones, Rheolwr Etholiadau Cyngor Torfaen: "Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod ein gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch i gynifer o bleidleiswyr â phosibl.
"Diolch i gefnogaeth Fforwm Mynediad Torfaen, rydym ni wedi nodi nad yw lleoliadau rhai o’r gorsafoedd pleidleisio yn addas ar gyfer pobl ag anableddau neu broblemau symudedd.
"Rydym ni hefyd yn awyddus i glywed barn pobl sy'n defnyddio eu gorsaf bleidleisio leol neu a hoffai wneud hynny ar gyfer etholiadau yn y dyfodol."
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 8 Rhagfyr a bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried erbyn dydd Gwener 15 Rhagfyr.
Bydd cynghorwyr yn ystyried y cynigion terfynol ym mis Ionawr 2024.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu gweithredu cyn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ddydd Iau 2 Mai.
Yr etholiad fydd y cyntaf lle bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod gyda llun i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Dysgwch pa fathau o brawf adnabod gyda llun sy’n dderbyniol.
Os nad oes gennych brawf adnabod gyda llun derbyniol, gallwch wneud cais am Dystysgrif Pleidleisiwr Awdurdod yn rhad ac am ddim.
Bydd angen i chi gyflwyno llun ar ffurf pasbort a dynnwyd yn erbyn cefndir golau, plaen, gyda eich llygaid ar agor, gwallt yn ôl a dim hidlwyr. Gellir gwrthod ceisiadau os nad yw'r ffotograffau'n dderbyniol.
Mae angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio i wneud cais am Dystysgrif Pleidleisiwr Awdurdod. Darganfyddwch sut i gofrestru.
Bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn nodi bod angen dangos dogfen adnabod i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd neu lywodraeth leol.