Gwella cyfleusterau ailgylchu ar gyfer fflatiau

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 26 Hydref 2023

Mae Cyngor Torfaen wedi bod yn gweithio gyda Thai Cymunedol Bron Afon er mwyn cynyddu nifer y fflatiau sydd â chyfleusterau ailgylchu.   

Yr wythnos hon, ychwanegwyd 18 fflat ar Albion Road at gynllun ailgylchu wrth ymyl y ffordd wythnosol y Cyngor.     

Meddai Anthea Roger, 57, sy’n byw mewn fflat ar Albion Road: “Rwy’n hapus iawn fy mod i nawr yn gallu ailgylchu bob wythnos. Roeddwn i’n ailgylchu yn y fflatiau lle’r oeddwn i’n byw ddiwethaf, felly rydw i wedi gweld eisiau hynny yn y fan yma.   

“Mae’n ddigon hawdd ailgylchu, ac mae’n lleihau’r sbwriel sy’n mynd i’ch bin â chlawr porffor.   

“Byddaf yn sicr yn annog ein trigolion eraill yn yr adeilad i ailgylchu nawr.”   

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae gan bob set o fflatiau ei heriau ei hun, ac felly rydyn ni wrth ein boddau fod Bron Afon wedi gallu cael 18 arall o’i fflatiau i ddefnyddio’n cynllun casglu bwyd gwastraff i’w ailgylchu. Bydd y tîm gwastraff yn parhau i weithio gyda Bron Afon dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn cael mwy o fflatiau i ailgylchu.   

“Mae pawb yn gweithio’n galed i godi’r gyfradd ailgylchu yn Nhorfaen, ac rydyn ni wrth ein boddau fod mwy o drigolion nawr yn gallu defnyddio’r cynllun ailgylchu wrth ymyl y ffordd.”   

Meddai Dusi Thomas, Rheolwr Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol gyda Bron Afon, “Rydyn ni’n falch o gefnogi pobl sydd eisiau gwella’r cymunedau lle maen nhw’n byw ac yn barod i wneud beth bynnag y gallwn ei wneud i annog pobl i ailgylchu. Rydyn ni’n dymuno parhau i weithio gyda’r cyngor er mwyn helpu Torfaen i gynyddu ei gyfradd ailgylchu a lleihau’r gwastraff sy’n mynd i safle tirlenwi. Mae hyn yn rhywbeth y gall bob un ei wneud yn hawdd, ac mae’n gymorth i leihau allyriadau carbon ac yn arbed arian.  

“Rydyn ni’n falch o allu darparu datrysiad ymarferol ar gyfer ein cwsmeriaid yn Albion Road a byddwn yn mynd â’r hyn a ddysgwyd at gymunedau eraill fel cymorth i roi mynediad hwylus at gyfleusterau ailgylchu i fwy o’n cwsmeriaid. 

Mae cynyddu nifer y fflatiau sydd â chyfleusterau i ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn rhan o ymgyrch Codi’r Gyfradd y Cyngor er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref i 70 y cant erbyn 2025.    

Rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Nhorfaen fel cymorth i Godi’r Gyfradd       

 

Diwygiwyd Diwethaf: 26/10/2023 Nôl i’r Brig