Rhoi arian i ddod â chymunedau ynghyd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 10 Hydref 2023
Community COhesion Gypsy Traveller

Mae wyth prosiect cymunedol yn Nhorfaen, Caerffili a Blaenau Gwent wedi bod yn llwyddiannus wrth gael arian i helpu i leihau anghydraddoldeb a dod â chymunedau ynghyd.

Mae’r Grantiau Cydlyniad Cymunedol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi eu cynllunio i gefnogi cynlluniau sy’n hyrwyddo dealltwriaeth a pharch rhwng grwpiau gwahanol o bobl ac yn creu cyfleoedd i bobl o bob cefndir uno.

Un o’r prosiectau a fydd yn derbyn £2000 yw Amgueddfa Torfaen, sy’n bwriadu gweithio gyda disgyblion o blith Sipsiwn a Theithwyr yn Ysgol Gorllewin Mynwy i greu arddangosfa Tu Fewn Tu Allan. 

Caiff yr arian ei wario ar helpu’r bobl ifanc i greu arddangosfa lluniau a sain yn dathlu hanes a thraddodiadau’r cymunedau Sipsiwn a Roma.

Bydd gwaith ar yr arddangosfa’n dechrau’r wythnos nesaf, gyda’r bwriad o arddangos yn yr Amgueddfa ym Mhont-y-pŵl ym Mehefin y flwyddyn nesaf fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Dywedodd Rheolwr Arfer Sipsiwn a Theithwyr Cyngor Torfaen, Lynne Robinson, sy’n arwain y prosiect ochr yn ochr â Rob Lewis, Swyddog Ymestyn Allan ac Addysg yn yr amgueddfa: 

"Mae’n hynod o gyffrous i ni ein bod ni’n ymwneud â phrosiect mor arloesol.  Bydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddathlu eu diwylliant, ond hefyd byddan nhw’n cael achrediad a chymwysterau mewn Ffotograffiaeth.

"Mae hefyd yn rhoi cyfle i’r gymuned sefydlog gael mewnwelediad i fywydau go iawn teithwyr yng nghymuned Torfaen."

Ymhlith y prosiectau eraill sydd wedi derbyn arian yn y rhanbarth mae:

  • Ysgolion ACT – i feithrin cysylltiadau a rhyngweithio ystyrlon rhwng disgyblion ac aelodau hŷn y gymuned. 
  • Cole Court – i greu clwb cinio i’r rheiny a allai fod yn teimlo’n unig ac sy’n wynebu anhawster ariannol.  
  • Caffi Dementia – sesiynau cynhwysol i drigolion, gofalwyr a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan Dementia. 
  • Cyfeillion Parc Morgan Jones – hwyluso cyfleoedd gwirfoddoli i’r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig.
  • Ysgol Sant Martin – i’r ysgol gyfan ymgysylltu â’r gymuned yn yr eglwys leol mewn digwyddiadau amrywiol.  
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown – i greu rhandir i gynnig cyfleoedd pellach am addysg a hyfforddiant ac i gynnal gweithdai coginio i rieni/gofalwyr.
  • Valley Daffodils – sesiwn cynhwysol pob wythnos i bawb sydd ag anabledd a/neu anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Chris Hunt, sy’n arwain y Tîm Cydlyniad Cymunedol Rhanbarthol yng ngorllewin Gwent: “Rydym wrth ein bodd o fod yn rhannu manylion am y prosiectau anhygoel yma i gyd sydd wedi bod yn llwyddiannus.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol arall o brosiectau’n ceisio, a hoffem ddiolch i’r grwpiau cymunedol i gyd a gyflwynodd cais ar gyfer eu brosiect.” 

Diwygiwyd Diwethaf: 10/10/2023 Nôl i’r Brig