Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 10 Hydref 2023

Mae Cyngor Torfaen yn ymuno â sefydliadau eraill ar draws y DU i oleuo mannau amlwg yn biws ac yn las i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban.

Bydd Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl yn cael ei goleuo i ddangos cefnogaeth i rieni a theuluoedd sy’n galaru, ac i godi ymwybyddiaeth o feichiogrwydd a cholli plentyn.

Yn y DU, amcangyfrifir fod 1 o bob 4 beichiogrwydd yn dod i ben gyda cholli baban yn ystod beichiogrwydd neu enedigaeth.

Eleni, mae’n mynd o 9 i 15 Hydref ac mae’n rhoi cyfle i gofio a choffau bywydau babanod sydd wedi marw yn ystod beichiogrwydd neu’n fuan ar ôl marw.

Dywedodd y Cynghorydd  Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae colli baban yn brofiad aruthrol i rieni a theuluoedd, ac mae’n bwysig eu cofio â’u cefnogi.

"Trwy oleuo ein hadeiladau’n biws ac yn las yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban, rydym yn danfon neges i rieni a theuluoedd sy’n galaru sy’n dweud nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, a bod eu babanod heb gael eu hanghofio.

"Rydym hefyd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o golli babanod a’r effaith ar deuluoedd a chymunedau. Rydym am annog pobl i siarad am golli baban a dileu’r  stigma o gwmpas hynny."

Mae Cyngor Torfaen yn annog pawb i gymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban trwy oleuo cannwyll am 7pm ddydd Sul 15 Hydref er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad ‘Ton o Oleuni’ byd-eang.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hefyd wedi lansio grŵp newydd cymorth colli baban yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road yng Nghwmbrân a bydd yn digwydd 7pm - pm ar ail ddydd Llun pob mis.

Mae ffyrdd eraill o gymryd rhan yn cynnwys ymuno â’r sgwrs yn y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #BabyLossAwarenessWeek neu drwy roi i elusen colli babanod.

Os ydych chi wedi eich effeithio gan golli baban, mae yna gefnogaeth ar gael.  Gallwch gysylltu â’r sefydliadau canlynol:

  • The Miscarriage Association
  • Sands
  • Tommy's
  • Aching Arms

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban, ewch i wefan Baby Loss Awareness Alliance.

Diwygiwyd Diwethaf: 12/10/2023 Nôl i’r Brig