Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 4 Hydref 2023
Mae dyn o Gwmbrân wedi pleidio’n euog i fasnachu heb drwydded masnachu ar y stryd.
Yn ystod Chwefror a Gorffennaf canfu Tîm Trwyddedu’r cyngor fod Andrew David Pritchard o Clyffes, Y Ddôl Werdd, Cwmbrân yn gwerthu bwyd a diod o uned heb y caniatâd gofynnol i fasnachu ar y stryd.
Ymddangosodd Mr. Pritchard yn Llys Ynadon Cwmbrân ar ddydd Iau 28 Medi 2023, ac fe’i cyhuddwyd o dair trosedd o fasnachu ar y stryd yn Nhorfaen heb awdurdod i wneud hynny trwy ganiatâd masnachu ar y stryd.
Mae angen trwydded masnachu ar y stryd i fasnachu’n gyfreithiol ar unrhyw stryd yn Nhorfaen, ac eithrio mannau sydd wedi eu dynodi’n strydoedd gwaharddedig.
Plediodd Mr. Pritchard yn euog i’r tri chyhuddiad a chafodd ei ddedfrydu i dalu dirwy o £120, gordal dioddefwyr o £48, a £100 tuag ar gostau'r cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym am sicrhau bod pob busnes yn gweithredu’n gyfreithiol yn Nhorfaen er mwyn diogelu’n trigolion a defnyddwyr, yn ogystal â masnachwyr cyfreithlon.
“Mae sicrhau fod gan fusnesau'r caniatâd angenrheidiol i fasnachu’n bwysig er mwyn sicrhau tegwch i bawb mewn busnes a bod y nwyddau sy’n cael eu gwerthu’n gyfreithlon ac nad ydyn nhw’n berygl i iechyd cyhoeddus.”
Dysgwch sut i wneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am fasnach anghyfreithlon ar y stryd gysylltu â Thîm Trwyddedu Torfaen ar 01633 647286 neu drwy e-bost licensing@torfaen.gov.uk