Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 4 Hydref 2023
Yn ystod y tair wythnos nesaf bydd Channel Four yn ffilmio cyfres newydd yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl.
Bwriedir dechrau ffilmio ar gyfer y gyfres newydd o Generation Z mewn gwahanol leoliadau yn Llanyrafon, Fairwater, Coed Eva, Ponthir a Phont-y-pŵl.
Dechreuodd y ffilmio ar gyfer y gyfres gomedi arswyd chwe rhan ychydig wythnosau yn ôl, gyda rhan o faes parcio Stadiwm Cwmbrân yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio.
Mae cwmni cynhyrchu The Forge yn cysylltu â busnesau a thrigolion sy’n agos at leoliad y ffilmio, i rannu unrhyw wybodaeth ymlaen llaw os byddant yn debygol o darfu ar draffig.
Mae dwy ran o dair o'r gyfres, a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Ben Wheatley ac sy'n cynnwys criw o actorion serol, sydd heb ei gyhoeddi eto, yn cael ei ffilmio yn Nhorfaen.
Bydd y gyfres, sy'n adrodd hanes confoi milwrol dirgel sy'n cael gwrthdrawiad y tu allan i gartref ymddeol ac yn troi’r preswylwyr yn sombïaid, yn cael ei darlledu y flwyddyn nesaf.
Gall unrhyw un sydd â chwestiynau neu bryderon am y ffilmio, gysylltu â genzlocations@gmail.com