Sul y Cofio 2023

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Tachwedd 2023
Red and Black Minimalist Remembrance Day Instagram Post

Mae Sul y Cofio yn ddiwrnod pwysig yng nghalendr y genedl, ac eleni bydd yn digwydd ar 12 Tachwedd.

Mae’n rhoi cyfle i gofio’r Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, o Brydain a’r Gymanwlad, a’r aberthau a gafodd eu gwneud i amddiffyn ein rhyddid a gwarchod ein ffordd o fyw.

Mae’n gyfle hefyd i ystyried rôl hanfodol y gwasanaethau brys a’r rheiny sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i wrthdaro neu derfysgaeth.

I nodi’r achlysur pwysig yma, bydd yna gyfres o orymdeithiau a gwasanaethau ledled y fwrdeistref sirol, gyda rhai’n cynnwys seremoni gosod torchau. 

Blaenafon 

  • 10.40am -  Gorymdaith o'r Maes Parcio Uchaf, drwy Broad Street ac Ivor Street i'r Senotaff.
  • 11.00am - Gosod torchau a gwasanaeth ger y Senotaff.

Cwmbran

  • 10.20am - Yr Orymdaith yn Ymgynnull ar Clomendy Road
  • 10.30am - Bydd yr Orymdaith yn ymffurfio ar Wesley Street.  Bydd yr Orymdaith yn symud i ffwrdd i lawr Wesley Street arno i Cocker Avenue, gan aros wrth y goleuadau cyn Henllys Way. Bydd y Gorymdeithwyr yn gadael eu llefydd er mwyn i’r rheiny sy’n gorymdeithio fynd i mewn i Barc Cwmbrân.
  • 10.50am - Gwasanaeth Coffa ym Mharc Cwmbrân

Y dafarn newydd

10.00am - Gorymdeithwyr yn ymgynnull yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Y Briffordd, Y Dafarn Newydd.

10.10am - Yr Orymdaith yn symud i Eglwys y Santes Fair.

10.30am - Gwasanaeth Eglwys yn Eglwys y Santes Fair.

11.20am - Gorymdaith yn dychwelyd i Neuadd Eglwys y Santes Fair.

Pontnewydd 

  • 10.15am - Y Gorymdeithwyr yn ymgynnull.
  • 10.30am - Gorymdeithio o Glwb Lleng Brydeinig Frenhinol Pontnewydd, Station Road, Pontnewydd ar gyfer seremoni gosod torchau a gwasanaeth ger y Senotaff.  Cynhelir dwy funud o dawelwch am 11.00am.

Ponty-y-pwl

  • 11.45am - Y Gorymdeithwyr yn ymgynnull ar Commercial Street, Canol Tref Pont-y-pŵl.
  • 12.00noon - Yr Orymdaith yn symud o’r man ymgynnull i’r Gatiau Coffa, Pont-y-pŵl i gynnal gwasanaeth a seremoni gosod torchau; dychwelyd ar hyd Cylchfan Clarence.

Mae manylion llawn y gwasanaethau sy’n digwydd i’w gweld ar wefan Cyngor Torfaen.

Bydd cau ffyrdd mewn grym am gyfnod o 30 munud cyn dechrau ac ar ôl gorffen y gorymdeithiau. 

Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Torfaen, y Cynghorydd Gaynor James:

"Mae Sul y Cofio’n ddigwyddiad difrifddwys i gofio dewrder ac ymroddiad y rheiny sydd wedi ymladd i warchod ein rhyddid a’n ffordd o fyw.  Mae gyda ni gyfrifoldeb i’w hanrhydeddu ac i barhau i ymdrechu dros heddwch a chyfiawnder yn y byd.

"Mae’n amser hefyd i ni fynegi diolch i bobl yn y gwasanaethau brys sy’n peryglu eu bywydau pob dydd er mwyn cadw’n cymunedau’n ddiogel."

Diwygiwyd Diwethaf: 19/01/2024 Nôl i’r Brig