Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 31 Mai 2023
Fel rhan o strategaeth y Cyngor i Godi’r Gyfradd ailgylchu, mae trigolion yn cael eu hatgoffa i roi eu blychau du wrth ymyl y ffordd erbyn 7am o ddydd Llun 5 Mehefin ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Torfaen dros yr Amgylchedd: “O ddydd Llun, nesaf ymlaen, efallai bydd trigolion yn sylwi bod ein criwiau ailgylchu’n cyrraedd yn gynharach na’r arfer i wagio blychau du. Bydd rhoi blychau du allan cyn 7am yn cefnogi’r criwiau sy’n gweithio rowndiau diwygiedig a bydd yn helpu osgoi casgliadau coll.
“Rydym wedi gwrando ar adborth gan drigolion a chriwiau felly mae trefn y rowndiau casglu blychau du wedi eu newid i’w gwneud yn fwy effeithlon i’r criwiau, a fydd, yn ei dro, yn cynyddu bodlonrwydd trigolion. Bydd y newidiadau bach i’r rowndiau’n rhoi mwy o amser i’r criwiau i ddychwelyd cynwysyddion i’r mannau y daethant ohonynt ac i gwblhau pob casgliad â chymorth. Trwy ailgylchu cymaint â phosibl, mor aml â phosibl, gallwn ni i gyd Godi’r Gyfradd.”
Dysgwch fwy am ailgylchu yn Nhorfaen trwy ymweld â gwefan y Cyngor #CodirGyfradd