Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Mai 2023
Mae disgyblion a rhieni’n dweud bod llwybr troed newydd i Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam wedi trawsnewid eu teithiau i’r ysgol.
Cwblhawyd y llwybr 180 metr o hyd o Court Farm Road gan Gyngor Torfaen yn gynharach y mis yma, diolch i grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac arian Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau.
Mae’r llwybr yn rhan o rwydwaith teithio llesol ehangach yng Nghae Derw, Cwmbrân, gyda chynlluniau ar gyfer datblygu nifer o ddarnau eraill dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd un rhiant, Claire Stinton-Winfield: "Mae’r llwybr newydd yn wych. Mae e wedi lleihau hyd amser y daith o ryw 10 munud ac mae fy merch wrth ei bodd oherwydd ei bod hi’n gallu mynd ar ei sgwter nawr yr holl ffordd adref o’r meithrin bob dydd ac mae hi’n gallu mynd gyda’i ffrindiau a does dim rhaid i mi boeni oherwydd fy mod i’n gwybod ei bod hi’n ddiogel.
"Mae fy chwaer wrth ei bodd hefyd. Mae ei mab yn byw gydag awtistiaeth ac mae e’n gor-gyffroi wrth gerdded wrth ymyl heolydd pan fo ceir yn mynd heibio oherwydd bod y sŵn yn ormod iddo.
"Mae e wedi llwyddo i gerdded adref ychydig o weithiau nawr gan ddefnyddio’r llwybr newydd a does dim rhaid i ni boeni bod y peth yn ormod iddo a’i weld yn rhedeg i ffwrdd oherwydd sŵn ceir. Felly maen nhw wedi newid o fynd yn y car pob dydd i fod yn gallu cerdded yn ddiogel y rhan fwyaf o ddiwrnodau."
Ychwanegodd un o’r mamau, Kirsty Arnold: "Mae llai o heolydd gyda ni i groesi gyda’r llwybr newydd felly mae’n llawer mwy diogel i fy mhlant ar eu beiciau. Mae’n ffordd gyflymach hefyd ac yn cymryd dim ond pum munud i ni."
Roedd tua hanner y disgyblion eisoes yn teithio’n rheolaidd i’r ysgol ar droed neu gyda beic, ond mae’r llwybr wedi arwain at gynnydd gyda disgyblion a staff yn defnyddio’r llwybr newydd.
Dywedodd y Pennaeth, Laura Perrett: "Rydym wrth ein bodd bod gyda ni fynediad ychwanegol i gerddwyr i’n hysgol ac mae nifer y bobl sy’n defnyddio’r llwybr eisoes wedi arwain at ostyngiad amlwg yn nifer y cerbydau ar safle’r ysgol."
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’n wych gweld y llwybr newydd yn cael effaith mor gadarnhaol yn syth.
"Thema Wythnos Cerdded i’r Ysgol yr wythnos yma yw Cerdded gyda Bywyd Gwyllt ac mae cerdded yn rhoi cyfleoedd gwych i blant fwynhau'r amrywiaeth eang o bryfed, anifeiliaid a phlanhigion yn eu cynefin. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu cysylltiad oesol gyda’u hamgylchedd lleol."
Mae Cyngor Torfaen yn gwneud cais am arian Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau ar gyfer cynlluniau lleol pob blwyddyn. I weld pa brosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus, ewch at ein gwefan.
Dysgwch sut allwch chi deithio’n fwy llesol yn Nhorfaen yma.