Ras 10k Mic Morris Torfaen....barod?

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Mai 2023
Mic Morris 10k 2023

Ydych chi’n barod am “ras 10k gyflymaf” y byd yr haf hwn?

Mae cannoedd o redwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer ras Mic Morris eleni, sef yn ôl y trefnwyr "y ras gyflymaf o'i bath ar y blaned".

Mae'r ras ar i lawr, ddydd Sul 16 Gorffennaf yn dechrau am 9am ym Mlaenafon, ac mae disgwyl i'r holl redwyr groesi'r llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl erbyn 11am.

Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn derbyn medal a chrys t 'tech tee' am gymryd rhan yn y digwyddiad.

Bydd elw o'r ras yn cael ei roi i Gronfa Ymddiriedolaeth Chwaraeon Coffa Mic Morris, felly’n rhoi budd uniongyrchol i athletwyr ifanc uchelgeisiol yn Nhorfaen

Er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw’n ddiogel, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 8am ac 11.30am:

  • A4043 Cwmavon Road, o’i chyffordd â Prince Street a New William Street ym Mlaenafon i Old Road yn Abersychan
  • Old Road
  • Limekiln Road
  • Freeholdland Road
  • George Street
  • Mill Road
  • Hospital Road
  • Rhan ogleddol o Osbourne Road i’w cyffordd â Glan yr afon
  • Glan yr afon
  • Park Road yn arwain at Penygarn Road

Mae'r llwybr a ddewiswyd yn caniatáu i draffig lifo rhwng Blaenafon a Phont-y-pŵl heb wrthdaro â’r rhedwyr.

Ni fydd ffyrdd ymyl ar gau yn ffurfiol, ond ni fydd unrhyw gerbydau'n cael mynediad i'r llwybr yn ystod y ras.

Os bydd y trefniadau hyn yn effeithio ar eich gallu i deithio neu i gyflawni unrhyw ddyletswyddau gofal, cysylltwch â thîm Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 cyn gynted ag y bod modd, fel y gellir gwneud trefniadau i reoli’r traffig ar y dydd.

Meddai Ben Jeffries, Trefnydd a Swyddog Datblygu Chwaraeon yn Nhorfaen, "Ymddiheurwn ymlaen llaw os yw’r camau i gau ffyrdd yn achosi anghyfleustra, ond ein gobaith yw y bydd y rhybudd ymlaen llaw yn caniatáu i drigolion wneud trefniadau eraill yn ystod y fath gyfnod byr.

"Cyn bo hir bydd gwybodaeth yn cael ei roi i drigolion sy'n byw ar y ffyrdd fydd yn cau, a byddwn, wrth gwrs, yn ymdrechu i agor pob rhan o'r llwybr cyn gynted ag y bo modd."

"Mae'r digwyddiad yn argoeli i fod yn ddiwrnod gwych i bawb sy'n cymryd rhan. P’un a ydych chi'n rhedwr profiadol neu'n cymryd rhan am y tro cyntaf, mae rhywbeth i bawb."

Yn ogystal â’r prif ddigwyddiad 10k, mae ras hwyl 2km sy’n addas i fygis hefyd yn cael ei chynnal ym Mharc Pont-y-pwl am 8:45am. Y gost fydd £2.50 y pen.

I gofrestru ar gyfer y ras 10k neu’r ras hwyl i deuluoedd, ewch i: 10K Torfaen (fullonsport.com)

Os hoffech wirfoddoli ar y diwrnod i sicrhau y cewch le am ddim yn y digwyddiad y flwyddyn nesaf, neu os hoffech noddi, rhowch alwad ar 01633 628936 neu anfonwch e-bost at ben.jeffries@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/05/2023 Nôl i’r Brig