Y Cyngor yn Llofnodi'r Siarter Creu Lleoedd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Mawrth 2023
housing_original

Cyngor Torfaen yw’r cyngor diweddaraf yng Nghymru i lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru. Mae’r cam hwn yn arwydd o gefnogaeth y cyngor i egwyddorion creu lleoedd.   Mae’r cyngor yn ymuno â dros 130 o sefydliadau sydd wedi llofnodi’r Siarter, gan gynnwys pum awdurdod lleol arall yng Nghymru. 

Datblygwyd Siarter Creu Lleoedd Cymru gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru er mwyn cyflwyno egwyddorion Creu Lleoedd mewn dogfen y gall bob sefydliad a chorff sy’n rhan o’r broses ddatblygu ei llofnodi a’i hardystio. 

Fel un o lofnodwyr y Siarter, mae’r cyngor yn addo: 

  • sicrhau bod y gymuned leol yn cael cyfrannu at ddatblygu cynigion 
  • dewis mannau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd 
  • rhoi blaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus 
  • creu strydoedd a mannau cyhoeddus penodedig, diogel a chroesawgar 
  • hyrwyddo cymysgedd cynaliadwy o ddefnyddiau i wneud lleoedd byrlymus, a 
  • thrysori a pharchu rhinweddau a hunaniaeth unigryw a chadarnhaol lleoedd. 

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Torfaen dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: ‘Mae’r cyngor wedi llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru fel arwydd pellach o’r modd y mae’r egwyddorion yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ein Cynllun Sirol newydd a’n hamcanion llesiant. 

 ‘Mae creu lleoedd yn ffordd holistaidd o gynllunio a dylunio, ac mae’r ffocws ar hyrwyddo ffyniant pobl, eu hiechyd, eu hapusrwydd a’u llesiant, yn yr ystyr ehangaf. Dylai pob datblygiad newydd gofleidio cymeriad cymunedau Torfaen a’u nodweddion unigol, a cheisio creu lleoedd sy’n creu ymdeimlad o gymuned a lle y gall bobl fodloni eu hanghenion bob-dydd.’ 

 Meddai Cyfarwyddwr Strategol yr Economi a’r Amgylchedd Torfaen, Rachel Jowitt: ‘Mae creu lleoedd yn gysyniad eang sy’n pwysleisio nodweddion arbennig ein cymunedau a’u hunaniaeth unigryw.  Nid yw’r ffordd hon o weithio yn newydd yn Nhorfaen oherwydd mae egwyddorion y Siarter hwn yn amlwg yn ein cynlluniau lle ar gyfer Pont-y-pŵl a Blaenafon. Fodd bynnag, mae’r cam hwn o lofnodi’r Siarter yn cryfhau ein hymrwymiad i’r egwyddorion ac yn gymorth i gyfoethogi Torfaen fel lle blaengar a chynhwysol i fyw ac i weithio sy’n edrych tua’r dyfodol.’ 

 I gael rhagor o wybodaeth am y Siarter, rhowch glic ar Siarter Creu Lleoedd (Placemaking Charter) - Comisiwn Dylunio Cymru (dcfw.org) 

Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2023 Nôl i’r Brig