Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Mawrth 2023
Mae disgyblion cynradd yn ymuno yn y frwydr i leihau gwastraff bwyd.
Mae Tîm Arlwyo Cyngor Torfaen wedi lansio cystadleuaeth newydd i weld pa ysgol sy’n gallu torri’n fwyaf faint o sbarion bwyd sy’n cael eu taflu amser cinio.
Mae’n dod wrth i wasanaeth gwastraff ac ailgylchu’r cyngor baratoi cynllun newydd ar gyfer gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd i ysgolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth arlwyo.
Roedd disgyblion yn Ysgol Gatholig Padre Pio ym Mhont-y-pŵl ymhlith y cyntaf i ymuno a byddan nhw’n rhoi tro ar gloriannau newydd a fydd yn cael eu rhoi i ysgolion.
Dywedodd Emie Capewell, Orla Teague, ac Ava Morgan, o Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio: “Mae rhai pobl heb fwyd, a gallai’r hyn yr ydym ni’n ei wastraffu fod yn bryd bwyd i rywun arall. Rydym ni’n gwastraffu gormod.
"Mae pobl yn gweithio’n galed i baratoi bwyd i ni ac rydym ni’n ei wastraffu. Dydyn ni ddim yn gwerthfawrogi eu gwaith caled.
"Os yw plant yn gwastraffu bwyd oherwydd dydyn nhw ddim yn hoff ohono, gallan nhw gael bwyd gwahanol o’r fwydlen neu ofyn am lai o fwyd.”
Dywedodd Mrs Dawn Taylor, athrawes Dosbarth 1 a Chydlynydd Eco, Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio "Mae’n gas gyda ni wastraff, felly rydym ni’n fodlon iawn ein bod ynghlwm wrth y prosiect yma.
“Mae ailgylchu gwastraff bwyd mor rhwydd, fel rydym ni’n gobeithio y bydd y plant, wrth wneud hyn yn yr ysgol, yn mynd adref ac yn cyflwyno’r ymddygiad yma i’w teuluoedd a’r gymuned ehangach.”
Bydd yr ysgol sy’n lleihau gwastraff bwyd y mwyaf yn ennill sesiwn coginio iach gyda Cooking Together, dan oruchwyliaeth Richard Shaw, gynt o Fws Coginio Her Iechyd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rwy’n falch o weld bod y tîm arlwyo wedi lansio’r gystadleuaeth yma mewn ysgolion cynradd. Bydd y fenter nid yn unig yn helpu i gynyddu faint o fwyd sy’n cael ei ailgylchu yn y fwrdeistref, bydd hefyd yn addysgu plant am bwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd yn ariannol ac yn amgylcheddol.
“Hefyd, trwy ddysgu pa fathau o fwyd sy’n cael eu gwastraffu mewn ysgolion, bydd y tîm yn gallu addasu bwydlenni a faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu. Bydd prydiau yn dal i fod yn faethlon gytbwys ond y gobaith yw y bydd llai yn cael eu gwastraffu.”
Mae ysgolion yn cael eu hannog i fonitro a chofnodi faint o wastraff sydd ar blatiau yn y neuadd ginio; trefnu ymgyrch i annog disgyblion i leihau gwastraff bwyd; ac ymchwilio i brif achosion gwastraff.
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, danfonwch e-bost at louise.gillam@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 07946 341718.
Ar hyn o bryd, mae llai na 64 y cant o wastraff yn Nhorfaen yn cael ei ailgylchu, ond mae Llywodraeth Cymru am i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu 70 y cant o sbwriel erbyn 2025.
Mae’r prosiect yma’n cyfrannu at amcanion lles y cyngor i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur trwy ailgylchu mwy. Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y Cyngor yma
Dysgwch fwy am Arlwyo Ysgolion Cynradd