Gorsaf drenau ar y ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Mawrth 2023
PPNI - Bridge Lift 1

Footbridge being lifted into play at Pontypool and New Inn Railway Station

Mae gwaith i drawsnewid Gorsaf Rheilffordd Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig o ran yr adeiladwaith.

Cafodd y bompren, a fydd yn cysylltu’r orsaf â chyfleuster parcio a theithio newydd, ei chodi a’i gosod yn ei lle nos Sadwrn, gyda dwy siafft ar gyfer lifftiau i gael eu gosod y penwythnos yma.

Mae’n nodi pwynt allweddol yn y datblygiad gwerth £7.1miliwn ac mae’n ganlyniad cydweithrediad agos rhwng y contractwyr a Network Rail, a gaeodd y llinell am wyth awr i alluogi i’r gwaith gael ei wneud.

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau ym Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae’n wych gweld bod y datblygiad wedi cyrraedd y camau olaf. Bydd y cyfleuster parcio a theithio newydd yn ei wneud yn haws i deithwyr sydd angen gadael eu ceir yn yr orsaf, yn ogystal â seiclwyr sydd am deithio ymhellach.

"Bydd cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r orsaf yn golygu bod modd i ni bwyso am fwy o drenau, a fydd yn fuddiol i gymudwyr a’r rheiny sydd am deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy."

Bydd y cyfleuster parcio a theithio integredig newydd yn cynnwys 11 o gilfachau parcio hygyrch, 3 ohonynt â gwefru trydanol, 11 o gilfachau gwefru, 129 o fannau parcio defnydd cyffredinol, 3 man gollwng neu i dacsis, 1 arhosfan bysiau, 6 cilfach i feiciau modur a 8 o fannau diogel ar gyfer beiciau, ar ben yr 20 o fannau sy’n bod eisoes ar gyfer beiciau.

Mae Cyngor Torfaen yn cyfrannu £1.5miliwn i’r prosiect, gyda £5.6miliwn gan Lywodraeth Cymru a Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Bydd yn un o’r cynlluniau cyntaf Metro a Mwy Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gael ei gyflenwi, fel rhan o gynlluniau i greu system Metro i Dde Cymru.

I wybod mwy am ailddatblygiad Gorsaf Rheilffordd Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd, ewch at ein gwefan.

Yn gynharach yr wythnos yma, dechreuodd gwaith i blannu 80 o goed a mwy na 4,500 o blanhigion gwrychoedd ym Mharc Pont-y-pŵl i wrthbwyso tynnu tyfiant i ffwrdd o safle’r orsaf drenau. 

Bydd y coed, gan gynnwys coed ceirios, cyll a bedw arian, a gwrychoedd, yn cael eu plannu mewn pum man gwahanol yn y parc – dwy ardal i’r gorllewin, wrth ymyl Pen-y-garn, un wrth ymyl y llethr sgïo a dwy yn y dwyrain, rhwng y llethr sgïo a’r groto cregyn.

Bydd llwybrau mynediad cyhoeddus a mannau agored sy’n cael eu defnyddio gan gerddwyr cŵn yn cael eu cadw. Gallwch ddarllen mwy yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2023 Nôl i’r Brig