Wedi ei bostio ar Dydd Llun 6 Mawrth 2023
Bydd gwaith i sefydlu 80 o goed newydd a dros 4,500 o blanhigion gwrychoedd ym Mharc Pont-y-pŵl yn dechrau’r wythnos yma.
Bydd coed, gan gynnwys coed ceirios, cyll a bedw arian yn cael eu plannu gyda gwrychoedd fel rhan o brosiect i ddatblygu Gorsaf Rheilffordd Pont-y-pŵl â’r Dafarn Newydd.
Bydd y planhigion newydd yn gwrthbwyso tynnu i ffwrdd tyfiant wrth ymyl yr orsaf drenau er mwyn creu cyfleuster parcio a theithio newydd wrth ymyl yr A4042, fel rhan o’r datblygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn deall y byddai rhai pobl efallai’n pryderu am dynnu tyfiant wrth ymyl Gorsaf Rheilffordd Pont-y-pŵl â’r Dafarn Newydd oherwydd bod planhigion i gyd yn dda i’r amgylchedd.
"Ond cafodd y gwaith ei wneud ar y sail y byddai amrywiaeth o goed a gwrychoedd brodorol yn cael eu plannu ym Mharc Pont-y-pŵl, a fydd yn helpu i gynyddu canopi coed y fwrdeistref ac a fydd yn cael eu mwynhau gan fwy o bobl."
Bydd y coed a’r gwrychoedd yn cael eu plannu mewn pum ardal wahanol yn y parc - dwy yn y gorllewin, wrth ardal Pen-y-garn, un wrth ymyl y llethr sgïo a dwy tua’r dwyrain, rhwng y llethr sgïo a’r groto cregyn. Bydd llwybrau mynediad cyhoeddus a mannau agored a ddefnyddir gan gerddwyr cŵn yn cael eu cadw.
Mae disgwyl i’r gwaith gymryd chwe wythnos a bydd yn golygu bod peiriannau bach yn dod i mewn i’r parc o’r brif fynedfa a Park Crescent, ond ni fydd yn effeithio ar fynediad trigolion i’r stryd.
Bydd grŵp gwirfoddolwyr Cyfeillion Parc Pont-y-pŵl yn helpu gyda’r plannu.
Mae’r cyfleuster parcio a theithio newydd yng Ngorsaf Rheilffordd Pont-y-pŵl â’r Dafarn Newydd yn rhan o ailddatblygiad gwerth £7.1 miliwn a fydd hefyd yn cynnwys pompren newydd a lifft i deithwyr anabl a seiclwyr. Y bwriad yw y bydd yn cael ei gwblhau yn ystod yr haf.
Bwriad y prosiect – a ariennir gan Gyngor Torfaen, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru – yw cynyddu nifer y bobl o’r fwrdeistref a’r cyffiniau sy’n defnyddio’r orsaf.
I wybod mwy am ailddatblygiad Gorsaf Rheilffordd Pont-y-pŵl â’r Dafarn Newydd, ewch at ein gwefan.
Mae’r prosiect yn cyfrannu at amcanion lles y cyngor i wneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur trwy wneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol. Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Sirol y cyngor yma.