Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Mehefin 2023
Gofynnir i drigolion gymryd rhan mewn adolygiad o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer cynghorau cymuned.
Mae yna chwe chyngor cymuned yn Nhorfaen, sef Blaenafon, Croesyceiliog a Llanyrafon, Cwmbrân, Henllys, Ponthir a Phont-y-pŵl.
Bydd yr adolygiad cymunedol yn helpu fel sail i benderfynu maint, strwythur, a chyfansoddiad cynghorau cymuned yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu natur cymunedau lleol a chymdogaethau. Mae’n rhaid cynnal yr adolygiad pob 10 mlynedd.
Dywedodd Caroline Genever-Jones, Rheolwr Etholiadau a Busnes Cyngor Torfaen: "Mae cynghorau cymunedol yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd cyhoeddus. Yn ogystal â helpu i gynnal asedau lleol, maen nhw hefyd yn helpu i roi synnwyr o hunaniaeth i gymunedau.
"Mae’r adolygiad yma’n ystyried pa gymunedau maen nhw’n gyfrifol amdanynt, yn ogystal â’r rhai nad ydyn nhw, felly mae’n bwysig bod trigolion lleol yn cael cyfle i roi eu barn."
Sefydlwyd cynghorau cymunedol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan ddisodli’r system flaenorol o gynghorau plwyf. Maen nhw’n derbyn eu harian trwy braesept ar dreth y cyngor ac maen nhw’n helpu i gynnal cyfleusterau lleol, gan gynnwys neuaddau pentref, meysydd chwarae, mannau agored a seddi.
I helpu gyda’r adolygiad, mae arolwg cyhoeddus byr wedi ei greu, gyda mapiau o ffiniau’r cynghorau cymuned gwahanol. I gymryd rhan, ewch i safle Cymerwch Ran Torfaen. Neu, gallwch ddanfon eich sylwadau at voting@torfaen.gov.uk.
Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Mercher 30 Awst.