Gwelliannau i'r gwasanaeth ailgylchu tecstilau

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Mehefin 2023

Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud i wasanaeth casgliadau ailgylchu tecstilau Cyngor Torfaen, ar ôl adborth gan drigolion.

Amlygodd yr ymgynghoriad ar newidiadau gwastraff a sioeau teithiol cyhoeddus y mis diwethaf ansicrwydd trigolion ynglŷn â pha decstilau y gellid eu rhoi i’w hailgylchu a sut, yn ogystal ag anghysonderau mewn perthynas i’r hyn a gasglwyd.

Ar ôl cyfarfodydd gyda chriwiau ailgylchu, mae dull cyson wedi ei gytuno nawr a gofynnir i drigolion:

  • Rhoi tecstilau i mewn i unrhyw fag plastig y mae modd ei glymu, ar wahân i fagiau elusennau.
  • Labelu’r bag yn eglur i ddweud ei fod yn cynnwys dillad, esgidiau neu decstilau.
  • Rhoi’r ailgylchu allan gyda’ch bag ailgylchu du.

Bydd unrhyw gamau y gall trigolion eu cymryd i adael gwlychu’r tecstilau – fel clymu bagiau’n dynn neu eu rhoi allan yn fuan cyn y casgliad – yn helpu gyda’r broses ailgylchu.

Mae’r tecstilau yr ydym yn eu casglu’n cael eu cludo i Green World Recycling yng nghanolbarth Lloegr, ble maen nhw’n cael eu hailddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Yn anffodus, ni allwn gymryd eitemau swmpus fel duvets, sachau cysgu neu glustogau, ond gallwch fynd â nhw at Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd.

Gall unrhyw ddillad neu esgidiau mewn cyflwr da gael eu rhoi i siop ailddefnyddio The Steelhouse, wrth ymyl Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  Ewch at ein gwefan am amserau agor.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae’r ymgynghoriad ar newidiadau gwastraff a’n hymgyrch Codi’r Gyfradd yn ddiweddar wedi dod â nifer o bethau at ein sylw, fel diffyg ymwybyddiaeth gan y cyhoedd o’r hyn y gall pobl ei ailgylchu a’r hyn na allan nhw.

"Mae ein hymgyrch newydd, Codi’r Gyfradd, yn ceisio helpu trigolion i ddeall y gwasanaethau ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn well a gwneud mwy o ddefnydd ohonynt, fel bod ein cyfraddau ailgylchu’n cynyddu yn unol â tharged Llywodraeth Cymru.

"Rwy’n gobeithio y bydd y gwelliannau mewn casgliadau tecstilau’n annog mwy o bobl i ailgylchu dillad nad oedd modd eu rhoi i elusennau, yn hytrach na’u taflu i’r biniau clawr porffor."

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu 70 y cant o wastraff erbyn 2024-2025. Mae’r gyfradd ailgylchu yn Nhorfaen yn ddiweddar wedi bod tua 62 y cant.

Os byddwch yn gadael tecstilau ar gyfer ailgylchu ac nid ydynt yn cael eu casglu, dywedwch os gwelwch yn dda wrth y Tîm Ailgylchu a Gwastraff trwy  waste@torfaen.gov.uk, neu drwy ffonio 01495 762200, felly gallwn ni barhau i wella’r gwasanaeth.

Am fwy o wybodaeth am wasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd Torfaen, ewch at ein gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/06/2023 Nôl i’r Brig