Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023
Mae mwy nag £1m yn cael eu buddsoddi yn nhrawsnewidiad tri adeilad gwag yng nghanol tref Blaenafon.
Mae gwaith i adnewyddu hen dafarn y Market Tavern a chyn siop fetio, ar Broad Street, wedi dechrau eisoes, gyda’r ddau yn mynd i fod yn eiddo masnachol a fflatiau.
Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar gyn siop cigydd, wrth ymyl Capel Bethlehem, a fydd yn dod yn siop tecawê. Mae disgwyl i’r tri phrosiect gael eu cwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf.
Mae’r prosiectau’n bosibl diolch i £704,000 o Raglen Treftadaeth Treflun Blaenafon (RhTT) a Grant Creu Lle Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yn ogystal â buddsoddiad preifat o £430,000.
Mae RhTT Blaenafon, sydd wedi derbyn dros £1.2 miliwn o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac sy’n cael cefnogaeth hefyd gan Gyngor Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, CADW a’r sector breifat, yn rhoi arian grant ar gyfer adeiladau yn yr ardal gadwraeth sydd ag angen brys o waith atgyweirio ac adnewyddu cynhwysfawr ar sail treftadaeth.
Daw’r grantiau diweddar i’r Market Tavern a’r siop cigydd ar ôl buddsoddiad RhTT Blaenafon yn HM Stores cyfagos a’r Hwb. Dywedwyd fod prosiectau RhTT i gyd yn flaenoriaeth uchel yn y cais gwreiddiol i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2018.
Mae Grant Creu Lle Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i berchnogion/lesddeiliaid wneud cais am arian i gefnogi amrywiaeth o ymyraethau gan gynnwys dychwelyd adeiladau gwag mewn canol trefi at ddefnydd buddiol.
Mae yna ddisgwyliad bod buddsoddiad preifat yn cael ei sicrhau cyn cael Grant Creu Lle Trawsnewid Trefi. Mae gan Gyngor Torfaen ddilyniant o brosiectau yn yr arfaeth tan Fawrth 2025 ar ôl derbyn mynegiannau o ddiddordeb a hysbysebwyd yn Awst 2022, a bydd yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb eto yn y dyfodol pan ddaw arian ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae hyn yn newyddion gwych i ganol tref Blaenafon. Rydym yn gwybod bod trigolion lleol wedi bod yn awyddus i weld bywyd newydd i’r Market Tavern ers nifer o flynyddoedd.
"Mae Blaenafon yn ardal gadwraeth ac mae Broad Street yn gartref i ffryntiau siopau Fictoraidd gwreiddiol a hardd. Bydd y prosiectau adnewyddu un defnyddio deunyddiau traddodiadol sy’n gyson â threftadaeth y dref a byddant hefyd yn cadw cymaint o’r nodweddion gwreiddiol â phosibl."
Ychwanegodd y Cyng. Nathan Matthews, Maer Blaenafon: “Rydw i wrth fy modd o weld gwaith yn dechrau ar y prosiectau pwysig yma y mae mawr eu hangen. Mae’r Market Tavern, yn arbennig, wedi bod yn ddolur llygad ers nifer o flynyddoedd. Bydd hyn, ochr yn ochr â’r prosiectau eraill, yn gwella Broad Street, yn cynyddu ei apêl, a, gobeithiwn, yn denu mwy o fusnes a bywyd i’n tref.”
Mae prosiectau adnewyddu Broad Street yn rhan o Gynllun Creu Lle Blaenafon, sy’n gosod gerbron dyheadau buddsoddiad ar gyfer canol y dref.
Am fwy o wybodaeth am Grantiau Creu Lle Trawsnewid Trefi, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Tîm Prosiectau Lle Strategol ar 01633 648293.