Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Chwefror 2023
Mae dwy fenyw wedi cyfaddef eu bod yn gwerthu nwyddau dylunwyr ffug, gan ddefnyddio grwpiau gwerthu ar Facebook.
Roedd y menywod wedi sefydlu grwpiau gwerthu ac roeddent yn hysbysebu cannoedd o eitemau, gan gynnwys dillad Louis Vuitton, Michael Kors a Givenchy yn ogystal â chynhyrchion Nike ac Adidas, y cyfan oll yn ffug, a hynny am ffracsiwn o'r pris a argymhellir.
Fe wnaeth swyddogion o dîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen hefyd ddod o hyd i esgidiau, bagiau ac Apple Airpods, y cyfan oll yn ffug, ar ôl cael gwarantau i chwilio eu heiddo
Yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 8 Rhagfyr 2022, fe wnaeth Tarin Jones, 25, o Ffordd Porthmawr, Northville, Cwmbran, gyfaddef i dri achos o werthu a meddu ar nwyddau ffug. Rhoddwyd rhyddhad amodol iddi am gyfnod o 12 mis a’i gorchymyn i dalu costau o £419.85 i’r Cyngor yn ogystal â gordal dioddefwr o £22.
Plediodd Hayleigh Matthews, 41 oed, o Cardigan Close, Croesyceiliog, Cwmbran, hefyd yn euog i dri chyhuddiad yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 9 Chwefror 2023, a hynny am werthu Apple Airpods ffug, a meddu ar fagiau dylunwyr a oedd yn rhai ffug. Cafodd ddirwy o £350, ei gorchymyn i dalu costau o £400.12, a gordal dioddefwr o £35, sy'n cyfateb i gyfanswm o £785.12.
Rhoddwyd clod i’r ddwy am bledio’n euog yn gynnar.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Dylai hyn gael ei ystyried yn rhwystr i bobl sy'n credu y gallant wneud arian drwy werthu nwyddau ffug drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
“Mae tîm Safonau Masnach Torfaen yn gweithio'n eithriadol o galed i fynd i'r afael â gwerthu a chyflenwi nwyddau ffug. Nid yn unig yw pobl sy'n cael eu dal yn gwerthu eitemau o'r fath yn wynebu’r perygl o gael dirwy, ond gellir hefyd ymchwilio i'w materion ariannol a gall y Llysoedd gymryd unrhyw arian neu asedau na allant brofi eu bod wedi'u hennill yn gyfreithlon. Maen nhw hefyd yn peryglu'r posibilrwydd o wynebu dedfryd o garchar.
"Fel arfer mae ansawdd y nwyddau ffug yn wael ac weithiau gallant fod yn anniogel. Trwy brynu eitemau o'r fath, mae defnyddwyr yn cefnogi masnachwyr anghyfreithlon a throseddol, ac yn difetha enw da busnesau cyfreithlon. Rwy'n annog trigolion i beidio â phrynu nwyddau heblaw eu bod o werthwyr ag enw da neu’n achrededig."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am nwyddau ffug gysylltu â thîm Safonau Masnach Torfaen ar 01633 647623 neu e-bostio trading.standards@torfaen.gov.uk
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar http://www.torfaen.gov.uk/en/Business/TradingStandards/Trading-Standards.aspx