Clod i Bennaeth Newydd gan arolygwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Chwefror 2023
BLaenavon primary school

Mae pennaeth newydd wedi cael clod gan arolygwyr Estyn, dim ond mis ar ôl iddi ddod i’r swydd. 

Ymunodd Anna Britten ag Ysgol Treftadaeth Blaenafon a Ariennir yn Wirfoddol ym Medi llynedd, a daeth arolygwyr Estyn i’r ysgol fis Hydref.

Yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, nododd yr arolygwr fod disgyblion yn yr ysgol ym Middle Coed Cae Road, "yn mwynhau dysgu ac yn frwdfrydig yn ystod gwersi ac mewn gweithgareddau o gwmpas yr ysgol ".

Canfuwyd hefyd fod athrawon yn "hyrwyddo awyrgylch cadarnhaol a chynhwysol a bod y disgyblion yn cofleidio cyfleoedd i ddatblygu perthnasau gwaith da gyda’u hathrawon a staff eraill".

Dywedodd arolygwyr fod disgyblion yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu eu sgiliau gwrando, siarad, darllen, digidol a rhifedd, yn ogystal â sgiliau Cymraeg llafar. 

Rhoddwyd clod hefyd i Mrs Britten am roi "arweinyddiaeth gref ac effeithiol".

Yn eu hadroddiad, dywedodd yr arolygwyr: "Mae’r uwch dîm rheoli, y staff a’r llywodraethwyr yn rhannu ei gweledigaeth glir, ac maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yr ysgol yn gwella.

"Mae’r pennaeth yn rhannu cyfrifoldebau yn effeithiol ymhlith yr uwch dîm rheoli ac mae hi’n dechrau datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol i staff.

"Mae hyn yng nghamau cynharaf datblygiad; serch hynny, mae’n sicrhau bod staff yn teimlo bod eu cyfaniadau i fywyd yr ysgol yn cael eu gwerthfawrogi."

Dywedodd Mrs Britten: "“Rydw i wrth fy modd bod yr arolygwyr wedi cydnabod bod lles y plant a’u hagweddau at ddysgu yn gryfderau’r ysgol, gan wneud sylw ar y cynnydd da mae nifer wedi gwneud a pha mor gwrtais a chroesawgar yw’r plant. Rydw i mor falch o’r plant - maen nhw’n glod i’r gymuned.

"Nododd Estyn hefyd y perthnasau gwaith cadarnhaol sydd gan staff â phlant a’u gwybodaeth drylwyr o anghenion plant unigol, a chyfraniad cryf y corff llywodraethol. Mae gennym dîm gwych yma yn Ysgol Treftadaeth Blaenafon!”

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Addysg: "Dylai’r staff dysgu, y disgyblion a’r gymuned ysgol ehangach fod yn falch iawn o’r adroddiad yma.

"Mae’n dda gweld sut mae’r ysgol wedi parhau i ddatblygu ac adeiladu ar yr adroddiad da blaenorol gan Estyn."

Mae gan Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon 478 o ddisgyblion ac 82 o blant meithrin.  Cafodd arolwg ddiwethaf ym Mawrth 2014.

Roedd yr adroddiad diweddar yn argymell bod yr ysgol yn gweithio i wella ysgrifennu estynedig y disgyblion; sicrhau bod ansawdd adborth yr athrawon yn targedu’r camau nesaf yn nysg disgyblion yn effeithiol; yn herio pob disgybl trwy addysgu cyson ac effeithiol ac yn sicrhau bod dysgu proffesiynol perthnasol yn gwella’r ddarpariaeth a deilliannau disgyblion.

Bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr arolwg.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/02/2023 Nôl i’r Brig