Gwersi coginio iach yn wobr i ddisgyblion

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023
page-2-drawing

Mae enillwyr cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff Gwasanaeth Arlwyo Torfaen wedi mwynhau dysgu sut i goginio bwyd iach a helpu i leihau gwastraff bwyd.  

Enillodd Pwyllgor Eco Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands y wobr gyntaf wedi iddynt leihau gwastraff bwyd yn eu hysgol 29 y cant.

Eu gwobr oedd diwrnod llawn o sesiwn bwyta’n iach i 16 o ddisgyblion gyda’r cwmni hyfforddiant bwyd Cooking Together, ac yn ystod y diwrnod fe fuon nhw’n coginio lapiadau llysieuol, pitsas a phwdinau ffrwyth.

Meddai un o’r disgyblion, Billie-Jo: "Roeddwn i mor falch fod Woodlands wedi ennill y gystadleuaeth! Ein gwobr ni oedd coginio bwyd iach ac roedd yn brofiad anhygoel."

Meddai Payton: "Roedd y coginio’n gymaint o hwyl a’r bwyd yn flasus dros ben a hefyd yn iach iawn." 

Ychwanegodd y Dirprwy Bennaeth, Claire Gratton: "Rydyn ni mor falch o’n disgyblion. Maen nhw’n ddinasyddion sy’n wybodus o ran moeseg ac yn dangos yn gyson eu hymrwymiad i roi sylw i faterion cyfredol fel  gwastraff bwyd ac i ymrwymo’u hamser a’u hymdrechion i hyrwyddo cynaliadwyedd yn ein hysgol a hefyd yn y gymuned ehangach.

"Gorlethwyd cynrychiolwyr ein Pwyllgor Eco gan y newyddion eu bod wedi ennill y gystadleuaeth ac fe wnaethon nhw fwynhau’r sesiwn goginio a gawsant yn wobr, mas draw. Heb os, roedd y sesiwn wedi eu hysbrydoli i feddwl sut y gallai eu teuluoedd greu prydau iach am gost isel."

Daeth Ysgol Gynradd Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Eva yn agos at y brig, a chawsant hanner diwrnod o wers yr un.

Meddai Daniel James, disgybl o Ysgol Gynradd Coed Eva: "Nes i fwynhau dysgu sut i goginio a sut i wneud bwyd yn iachach."

Fe fu tair ar ddeg o ysgolion cynradd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth i leihau’r bwyd gwastraff sy’n cael ei daflu i ffwrdd amser cinio, gan leihau eu gwastraff bwyd 20 y cant, ar gyfartaledd.  

Cafodd yr ysgolion glorian i’w helpu i fonitro faint o fwyd oedd yn cael ei daflu, a pha fath o fwydydd, ac adnoddau i’w helpu i annog disgyblion i fwyta’u bwyd i gyd. 

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: “Mae’n Wythnos Hinsawdd Cymru ac mae lleihau gwastraff bwyd yn rhywbeth y gall bob un ohonom ei wneud er mwyn arbed arian a gwarchod yr amgylchedd. 

“Hoffwn ddiolch i bob un o’r ysgolion am gymryd rhan. Mae mor bwysig dysgu am leihau gwastraff bwyd ar oed mor gynnar, ac roeddwn i wrth fy modd wrth glywed y canlyniadau."

Sbardunwyd y syniad ar gyfer y gystadleuaeth wrth lansio gwasanaeth casglu bwyd gwastraff Cyngor Torfaen ar gyfer ysgolion cynradd, y llynedd.  

Ariannwyd y gwobrau a’r cloriannau gan raglen Bwyd i Dyfu. Cafwyd y cyllid ar gyfer gwobr ychwanegol y rhai a ddaeth yn agos at y brig gan Dîm Rheoli Arlwyo Ysgolion Torfaen, gan fod cynifer o gystadleuwyr rhagorol wedi cystadlu. Cafwyd rhoddion hefyd gan Y Tîm Ysgolion Iach a’r Tîm Chwarae. 

Cewch ragor o wybodaeth am y ffordd y mae’r Tîm Arlwyo Ysgolion yn gweithio’n galed i fodloni anghenion disgyblion heddiw, heb niweidio cyfleoedd ar gyfer y dyfodol, yma.

Rhagor o wybodaeth am Arlwyo Ysgolion Cynradd.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/12/2023 Nôl i’r Brig