Yr ymgynghoriad British

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 29 Awst 2023
British PAC montage

Gwahoddir trigolion i wneud sylwadau am gynlluniau ar gyfer cynllun traenio newydd ar safle’r British, cyn ei gyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio.

Mae’r cynigion ar gyfer Cynllun Draenio Gwaith Haearn Y British yn Nhalywaun yn dilyn gwaith arolygu ac ymchwilio helaeth ar y safle yn ystod 2022 a 2023 ac yn cynnwys cynlluniau ar gyfer

  • Ailgyfeirio nant Blaengafog a chwrs dŵr Castle Wood i’r de o Farm Road, a chreu cronfa ddŵr a phwll i storio dŵr. Bydd hyn yn sicrhau bod dŵr wyneb yn cael ei reoli’n well wrth iddo redeg o’r safle i mewn i’r rhwydwaith o geuffosydd sy’n bodoli’n barod.
  • Ailbroffilio’r tir a’r gwaith tirlunio cysylltiedig.

Gallwch weld y cais arfaethedig a chynnig sylwadau arno rhwng yn awr a dydd Gwener 22 Medi 2023.

Mae’r cynlluniau arfaethedig a dogfennau ategol eraill ar gael:

  • Yn Swyddfa’r Post Talywaun, 79 Commercial Road, Talywaun, Pont-y-pŵl, NP4 7HX (Amserau agor: o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 6:30 am hyd 5:00 pm, dydd Sul 7:00 am hyd 12:00 pm)
  • Partneriaeth Garnsychan, 55 Stanley Road, Garndiffaith, Pont-y-pŵl, NP4 7LH. (Amserau agor: o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:00 am hyd 4:30 pm)
  • Alternatively, you can view them by visiting www.thebritishironworks.co.uk

Os ydych yn dymuno cyflwyno sylwadau am y datblygiad arfaethedig hwn, cysylltwch ag asiant Cyngor Torfaen, WSP cyfeiriad e-bost britishironworks@wsp.com, neu yn ysgrifenedig Ian Pritchard yn WSP, Quest House, Parc Busnes Llaneirwg, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd, CF3 0EY.

Neu llenwch ffurflen sylwadau, sydd ar gael ar http://www.thebritishironworks.co.uk neu yn un o’r safleoedd uchod

Mae Cynllun Draenio Gwaith Haearn Y British yn rhan o waith Cam 1. Mae’r cam hwn yn hanfodol i wella diogelwch y safle a dyma’r darn cyntaf yn jig-so Uwch-gynllun Y British.

Mae hefyd yn rhan o amcan lles y cyngor i gefnogi diwylliant a threftadaeth leol a gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ynddo ac ymweld ag e. Darllenwch fwy am amcanion lles y cyngor.

Datblygwyd yr Uwch-gynllun ar gyfer y safle mewn partneriaeth â’r gymuned a rhanddeiliaid a chafodd ei gymeradwyo gan Gynghorwyr Torfaen ym mis Tachwedd 2018.

Cafodd y cam cyntaf hwn gyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020 a ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am Y British ar dudalen Y British | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 29/08/2023 Nôl i’r Brig