Y British

View of the British with a jigsaw piece over layed

Beth yw Y British a ble mae e?

‘Y British yw’r mwyaf o’r safleoedd diwydiannol adfeiliedig sy’n weddill yn Ne Ddwyrain Cymru, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn prynu 1,300 erw o’r safle ar ddiwedd 2016’ . Mae’r safle wedi’i leoli yn Nhal-y-waun ac mae bellach yn brosiect adfywio mawr.

Cam 1 y Gwaith: Darn cyntaf y jig-so

Mae'r cam hwn yn hanfodol i wella diogelwch y safle a dyma darn cyntaf yn jig-so Uwch gynllun Y British. Datblygwyd yr Uwch gynllun ar gyfer y safle mewn partneriaeth â’r gymuned a rhanddeiliaid – cafodd ei gymeradwyo gan Gynghorwyr Torfaen ym mis Tachwedd 2018.

Mae Cam 1 yn canolbwyntio ar yr ardal o’r safle a elwir yn ‘Y Darn Du’ a’r ‘Hen Waith Haearn’, gan fynd i’r afael â pheryglon iechyd a diogelwch hynod heriol a hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys archwilio a thrin siafftiau a cheuffyrdd, yn ogystal â chreu cwrs dŵr newydd.

Bydd y cwrs dŵr yn lleihau'r perygl o lifogydd ar yr wyneb yn yr ardal ac yn cynorthwyo bioamrywiaeth ar y safle. Bydd pwll newydd yn cael ei greu a bydd hwn yn cael ei gysylltu â chwrs dŵr newydd uwchben y ddaear a fydd yn lleihau'r galw i ddefnyddio'r ceuffosydd tanddaearol sy'n dirywio.

Mae’r cam cyntaf dan sylw wedi cael cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cynnydd presennol a gwaith

Yn 2022, dechreuodd y gwaith gydag ymchwiliad i’r siafftiau a’r mynedfeydd sy’n bodoli ar hyd y cwrs dŵr newydd arfaethedig uwchben y ddaear. Roedd y gwaith yma’n cynnwys dau arolwg Tir a Draenio allweddol a oedd yn cipio ac yn dadansoddi data pwysig ar y safle.

Roedd y data hwn yn gymorth i oleuo’r cam nesaf o waith ymchwilio helaeth a gafodd ei wneud yn ystod hydref 2022. Comisiynwyd Quantum Geotechnic Ltd i ymgymryd â’r gwaith yma a oedd yn cynnwys:

  1. Cam cyntaf o gipio data am y deunydd isarwynebol (pridd o dan yr arwyneb) gan ddefnyddio peiriannau ar y safle.  Cwblhawyd hyn yn ystod Chwefror 2023.
  2. Ail gam o brofi a dadansoddi samplau o bridd mewn labordy a fydd yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2023.

Mae canlyniadau’r archwiliadau hyn wedi cyfrannu at y dyluniad manwl ar gyfer gwaith adfer i fynedfeydd y mwyngloddiau a’r cynllun draenio uwchben y ddaear (cronfa ddŵr, pwll a chwrs dŵr newydd).

Cynhaliwyd Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais rhwng dydd Gwener 25 Awst a dydd Gwener 22 Medi 2023 ar gyfer y cynllun draenio newydd arfaethedig. Roedd hwn yn gyfle i aelodau’r cyhoedd weld y cynlluniau arfaethedig a dogfennau ategol eraill, a chynnig eu sylwadau. Mae’r ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn, a diolch i’r rheiny sydd wedi cynnig sylwadau. Byddwn yn cynnwys ymatebion i sylwadau a ddaeth i law mewn adroddiad ac yn eu cyflwyno wrth gyflwyno’r cais cynllunio’n ffurfiol maes o law.

Gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gwent

Yn ogystal â’r gwaith hanfodol hwn ar Gam 1, mae Cyngor Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gwent (YNG).

Ers lansio ein partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent ym mis Ebrill 2022, mae rhaglen gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar fywyd gwyllt, yn cynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, wedi galluogi’r gymuned leol i gymryd rhan a dysgu mwy am safle’r British.

Mae aelod newydd o staff, Kevin Donovan, wedi  ymuno â thîm YNG fel Swyddog Cymunedol Safle’r British. Bydd Kevin yn parhau gyda’r rhaglen o ddigwyddiadau am ddim dros y misoedd i ddod.

Dysgwch mwy am ddigwyddiadau a gweithgareddau YNG ar safle’r British ar Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Ymunwch â rhestr bostio’r prosiect i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ac i wirfoddoli yma. 

Cysylltwch â thîm y prosiect ar 01633 648083

Y Newyddion Diweddaraf

Cylchlythyr

 

European Agricultural Fund for Rural Development Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 22/09/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Prosiect y British

Ffôn: 01633 648083

Nôl i’r Brig