Adfywio Canol Tref Pont-y-pŵl

Hwb Diwylliannol ac Ardal Caffi Pont-y-pŵl

Bwriad Hwb Diwylliannol ac Ardal Caffi Pont-y-pŵl yw trawsnewid rhan ddeheuol y dref i fod yn atyniad bywiog i ymwelwyr.

Bydd y prosiect gwerth £9.3miliwn yn canolbwyntio ar dri datblygiad newydd:

Caffi Mynediad y Parc

Bydd y toiledau ar Hanbury Road yn cael eu troi’n gaffi/bwyty newydd uwchben y gerddi Eidalaidd a Pharc Pont-y-pŵl.  Y bwriad yw denu’r rhyw 300,000 o bobl sy’n ymweld â’r parc pob blwyddyn i mewn i ganol y dref.  Bydd yn cynnwys cyfleusterau toiledau cyhoeddus hygyrch newydd.

Hwb Diwylliannol Eglwys Sant Iago

Bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei drawsnewid i fod yn hwb diwylliannol gyda bwyd a lle ar gyfer arddangosfeydd, bar a lle ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, gan gyfrannu at adfywiad diwylliannol y dref.

Maes Parcio Glantorvaen Road

Bydd y maes parcio’n cael ei adnewyddu i gynnwys mannau parcio newydd i’r anabl a mannau gwefru cerbydau trydan. Bydd yr uwchraddiad hefyd yn cynnwys gosod paneli solar i wella effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.

Mae Hwb Diwylliannol ac Ardal Caffi Pont-y-pŵl wedi derbyn £7.6miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Lywodraeth y DU, sy’n anelu at greu swyddi, gyrru twf economaidd a helpu i adfer balchder pobl yn y lleoedd maen nhw’n byw ynddynt.

Mae’r cyngor yn arwain ar brosiectau’r caffi wrth fynedfa’r parc a’r maes parcio ac yn cefnogi datblygiad Eglwys Sant Iago sy’n cael ei wneud gan fuddsoddwr preifat.

Mae disgwyl i waith adeiladu ddechrau ar y caffi ar a’r maes parcio yn gynnar yn 2026.  Bydd y toiledau a’r maes parcio ar gau dros dro i hwyluso’r gwaith.  Bydd gwybodaeth bellach, gan gynnwys dyddiadau, yn cael ei rhannu unwaith y bydd ar gael.

Disgwylir i’r prosiect, sy’n rhan o Gynllun Creu Lle'r cyngor ar gyfer Pont-y-pŵl, gael ei gwblhau erbyn canol 2027

Lawrlwythwch gopi o’r  Cais Rownd 2 i’r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Hwb Diwylliannol ac Ardal Caffi yma

Cewch wybod y datblygiadau diweddaraf gyda Hwb Diwylliannol ac Ardal Caffi Pont-y-pŵl ar Facebook a Twitter.

Am wybodaeth ynglŷn â sut y gall tîm Economi Sylfaenol Cyngor Torfaen gefnogi busnesau newydd ym Mhont-y-pŵl, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk.  

 

Funded by UK Government Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 01/10/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Economy and Environment Team

E-bost: pontypool-luf@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig