Cwmbrân y Dyfodol – Rhaglen Balchder Bro

Mae Balchder Bro yn rhaglen adfywio 10-mlynedd gan Lywodraeth y DU sy'n rhoi mwy o reolaeth i gymunedau dros fuddsoddiad lleol, ac mae Cwmbrân yn gymwys i gael hyd at £20 miliwn.

Lansiwyd y rhaglen yn 2023 fel y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, ac esblygodd i'r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau yn 2025 cyn dod yn rhaglen Balchder Bro yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno.

Cwmbrân y Dyfodol yw'r cynllun adfywio newydd i nodi sut y dylid gwario’r grant o £20m gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cwmbrân.

 

Pride in Place Logo
Cwmbran Futures Logo

 

Bydd y cyllid yn cael ei ryddhau fesul cam dros gyfnod o 10 mlynedd, gan ddechau yn 2026, a bydd ei ffocws ar adfywio ardaloedd lleol trwy dri nod:

  • Llefydd Llewyrchus
  • Cymunedau Cryfach
  • Ailafael yn yr Awenau

Bydd y cynllun yn cynnwys canol y dref a'r ardaloedd cyfagos.

Map outlining the area covered by the Long Term Plan for Cwmbran Town

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu'r cynllun.

Bydd gwybodaeth leol ynghyd â barn pobl leol sy'n byw ac yn gweithio yng Nghwmbrân yn goleuo datblygiad y cynllun ac yn dylanwadu ar benderfyniadau am sut i wario’r gronfa fuddsoddi gwerth £20m.

Yn ystod 2024 roedd cyfle i aelodau'r cyhoedd ddysgu mwy am brosiect Dyfodol Cwmbrân a dweud eu dweud am Gwmbrân drwy raglen o weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhaliwyd ar draws Cwmbrân, a oedd yn cynnwys gweithdai, sesiynau galw heibio ac arolwg ar-lein.

Ymgynghorwyd ymhellach â'r cyhoedd rhwng 15 Medi a 6 Hydref 2025. Roedd y cyfleoedd i'r cyhoedd roi eu barn am yr hyn sydd ei angen ar Gwmbrân yn cynnwys arolwg ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb.

Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân

Mae Bwrdd Cymdogaeth Cwmbrân, sy'n cynnwys trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol lleol, wedi'i sefydlu i arwain y broses o wneud penderfyniadau’n lleol a chyflawni'r cynllun yn lleol. 

Mae'r Bwrdd yn gweithio gyda thrigolion, partneriaid a chyngor Torfaen i gyd-gynhyrchu’r cynllun, a’i gymeradwyo, ar sail yr ymgysylltiad eang â'r gymuned a gynhaliwyd yn ystod 2024–25.

Cyflwynwyd Gweledigaeth 10-mlynedd a Chynllun Buddsoddi 4-Blynedd i Lywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2025.

Bydd Cyngor Torfaen yn cefnogi'r Bwrdd ac yn goruchwylio'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Llywodraeth y DU.

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf 4 gwaith y flwyddyn. Mae gwaith papur y Bwrdd, agendâu cyfarfodydd a chofnodion ar gael. Cliciwch ar y ddolen ganlynol www.getinvolved.torfaen.gov.uk

Rhagor o wybodaeth am raglen Balchder Bro

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglen ar Pride in Place - GOV.UK

 

Funded by UK Government Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 01/05/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cwmbrân y Dyfodol

Ffôn: 01633 648293

E-bost: CwmbranFutures@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig