Mynd ati i blannu cannoedd o goed

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 22 Awst 2023
Tree planting pic

Mae trigolion yn cael cyfle i ganfod lleoliad ar gyfer cannoedd o goed, a hynny’n rhan o brosiect Bwrw Gwreiddiau sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Torfaen a Thai Cymunedol Bron Afon.   

Mae trigolion a grwpiau cymunedol lleol yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn prosiect uchelgeisiol i gyfoethogi’r dirwedd yn Nhorfaen.    

Mae'r Bartneriaeth Natur Leol, mewn partneriaeth â Chyngor Torfaen a Bron Afon, yn cychwyn ar brosiect plannu coed arloesol 'Bwrw Gwreiddiau'. Nod y fenter yw gwella mannau gwyrdd a bioamrywiaeth drwy blannu amrywiaeth eang o goed llydanddail a pherllannau brodorol yn y fwrdeistref. 

Nodwyd 30 safle o amgylch y fwrdeistref eisoes, a hoffai tîm y prosiect hefyd gael adborth ynghylch y safleoedd arfaethedig.  

Anogir trigolion a grwpiau cymunedol lleol i gymryd rhan yn y prosiect drwy osod pinnau ar fap rhyngweithiol sy'n dangos lle hoffent blannu coeden.  

Gymryd rhan yn y penderfyniad ble yn union i blannu’r coed yn y fwrdeistref. Dyddiad cau Dydd Llun 11 Medi.   

Trwy fabwysiadu methodoleg 'coeden iawn yn y lle iawn', bydd pob safle yn destun asesiad trylwyr i bennu’r nifer a’r rhywogaethau gorau posibl o goed sy’n addas ar gyfer eu lleoliad penodol.  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn falch iawn o’r cyfle i gefnogi “Bwrw Gwreiddiau” a chydweithio gyda’n trigolion a’n partneriaid i gymryd camau pwrpasol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. 

“Drwy'r cynllun plannu hwn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd plannu coed, cadwraeth amgylcheddol, hyrwyddo arferion ecogyfeillgar, ac ysbrydoli ein cymuned i ddyheu i fyw mewn modd cynaliadwy. Credwn drwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud gwahaniaeth sylweddol i leihau ein hôl troed carbon a diogelu ein hadnoddau naturiol."

Dywedodd Veronika Brannovic, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol: “Mae hwn yn ddull partneriaeth gyffrous o gynyddu plannu coed ar draws Torfaen ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i roi gwybod i ni ble yr hoffent weld mwy o goed yn cael eu plannu, a mynd ati i helpu i blannu rhai ohonynt.” 

Meddai Simon Morgan, Rheolwr Lleoedd a Mannau, Tai Cymunedol Bron Afon: “Mae Bwrw Gwreiddiau yn gydweithrediad gwych rhwng Bron Afon a’r Bartneriaeth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. 

“Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a roddwyd ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw a chynnwys pobl leol i blannu mwy o goed yn eu cymunedau.”   

Drwy gydweithio, gobaith y prosiect yw y bydd y fenter plannu coed yn cefnogi dyheadau’r gymuned, wrth fynd ati i ddiogelu’r coed hyn er lles cenedlaethau’r dyfodol.   

Mae'r prosiect hwn yn rhan o Gynllun Sirol y Cyngor i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i wella’r amgylchedd lleol. Darllenwch y Cynllun Sirol i gael gwybod mwy.   

I ddarganfod pam mae coed mor bwysig beth am wylio’r fideo Cariad Coed neu ddarllen Strategaeth y Cyngor ar reoli coed.   

Mae'r Cyngor hefyd yn ymgynghori ar sut y gellir rheoli'r perygl o lifogydd yn y fwrdeistref, sydd hefyd yn rhan o’r ffyrdd yr eir ati i leihau effaith newid hinsawdd. Cymryd rhan yn yr arolwg hwn.   

Diwygiwyd Diwethaf: 30/08/2023 Nôl i’r Brig